RHESYMU'N RHIFIADOL

Dyma adnodd rhyngweithiol ar-lein, sy’n datblygu gallu disgyblion 11-14 oed a disgyblion 14-16 oed i resymu’n rhifiadol yn eu bywydau pob dydd. Mae’n cynnwys cyfres o gwestiynau aml-gam wedi’i selio ar sefyllfaoedd bywyd go iawn wedi’i rhannu i’r meysydd: Cyllid, Trafnidiaeth, Cartref, Amgylchedd a Hamdden. Addas ar gyfer dysgwyr uwchradd o bob oed.

Mae pob maes yn cynnwys 50 cwestiwn, gyda chwestiynau 1-25 i ddisgyblion 11-14 oed a chwestiynau 26-50 i ddisgyblion 14-16 oed ym mhob adran. Mae’r cwestiynau yn dilyn manylebau TGAU sylfaenol, canolradd ac uwch CBAC.

Drwy weithio drwy’r cwestiynau, bydd y dysgwyr yn dysgu ateb cwestiynau gyda strwythur a bydd hyn yn magu hyder y dysgwr i drin a datrys problemau rhesymu rhifiadol.

Mae’r adnodd wedi’i ddylunio fel bod modd ei ddefnyddio ar gyfrifiadur / gliniadur / iPads neu unrhyw adnodd digidol arall.

Mae’r adnodd yma wedi’i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru.