POLISI PREIFATRWYDD A CHWCIS

Polisi preifatrwydd a chwcis

Beth sy’n cael ei gynnwys yn y polisi hwn

Rydyn ni, Cyngor Gwynedd , yn cymryd ein rhwymedigaethau preifatrwydd o ddifrif ac rydyn ni wedi creu’r polisi hwn i egluro sut rydyn ni’n trin eich gwybodaeth bersonol sy’n cael ei chasglu ar y wefan hon. Mae hefyd yn egluro’n benodol sut rydym ni yn defnyddio cwcis a’r opsiynau sydd gennych i’w rheoli.

Mae ein gwaith o gasglu, defnyddio a datgelu eich gwybodaeth bersonol yn cael ei reoleiddio gan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DG (UK GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018.

 

Pa wybodaeth y byddwn yn ei chasglu?

Gwybodaeth bersonol

Gwybodaeth bersonol yw’r wybodaeth sydd gennym y gellir ei gweld fel gwybodaeth amdanoch chi.

Rydyn ni’n casglu gwybodaeth gennych o ffurflenni rydych yn ei lenwi’n gofyn am fwy o wybodaeth / tanysgrifio i’n gwasanaethau. Mae hyn yn cynnwys eich cyfeiriad e-bost a gwybodaeth ychwanegol fel y nodir gennych chi ar y ffurflenni.

Gwybodaeth am ddefnydd

Rydyn ni’n casglu gwybodaeth am eich defnydd o’r safle. Mae hyn yn cynnwys tudalennau yr ymwelwyd â nhw, cyfeiriad IP, dogfennau a gafodd eu llwytho i lawr.

Sail gyfreithiol

Y sail gyfreithiol rydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol ydi erthygl 6(1)(f) RDDC DG sy’n caniatáu i ni brosesu data personol lle bo angen gwneud hynny er diben ein buddion cyfreithlon.

Sut rydyn ni’n defnyddio’r wybodaeth rydyn ni’n ei chasglu

Rydyn ni’n casglu’r wybodaeth hon er mwyn:

  • ei dadansoddi a’i dehongli er mwyn helpu i gyflawni ein hamcanion a’n rhwymedigaethau
  • rhoi gwybodaeth i chi am gyfleoedd ymgysylltu, digwyddiadau a chynlluniau eraill,
  • ymateb i ymholiadau ac ymgysylltu â rhanddeiliaid fel arall,
  • sicrhau diogelwch y safle ac ein systemau.

 

Dolenni allanol

Gall ein gwefan gynnwys dolenni at wefannau eraill. Darperir y dolenni hynny er hwylustod ac efallai na fyddan nhw’n aros yn gyfredol nac yn cael eu cynnal. Nid ydyn ni’n gyfrifol am arferion preifatrwydd gwefannau cysylltiedig ac rydyn ni’n awgrymu eich bod yn adolygu polisïau preifatrwydd y gwefannau hynny cyn eu defnyddio.

 

Diogelwch

Er nad oes gwasanaeth ar-lein sy’n gwbl ddiogel, rydyn ni’n gweithio’n galed iawn i ddiogelu gwybodaeth amdanoch chi rhag mynediad heb awdurdod, ei ddefnyddio, ei addasu neu ei ddinistrio, a chymryd pob cam rhesymol i wneud hynny.

Gofyn am fynediad at eich gwybodaeth bersonol neu ei chywiro

Yn amodol ar ddeddfau a rheoliadau lleol perthnasol, efallai fod gennych rai neu’r cyfan o’r hawliau canlynol o ran eich data personol:

  • i gael mynediad at eich data personol ac i gywiro unrhyw wallau yn y data personol hwnnw;
  • gwneud cais i ddileu eich data personol sy’n aros gyda ni;
  • gofyn am eich data personol mewn fformat cludadwy y gellir ei ddarllen â pheiriant; a
  • tynnu eich caniatâd yn ôl i ni brosesu eu data personol.

Os hoffech gysylltu â ni gyda chais sy’n ymwneud â’r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion cyswllt a nodir isod, gan gynnwys eich enw a’ch manylion cyswllt. Efallai y bydd angen i ni gadarnhau pwy ydych chi cyn rhoi eich gwybodaeth bersonol i chi.

Mewn rhai achosion, efallai na fyddwn yn gallu rhoi mynediad i chi at eich holl wybodaeth bersonol, ac os bydd hyn yn digwydd, byddwn yn esbonio pam. Byddwn yn delio â phob cais am fynediad at wybodaeth bersonol cyn pen cyfnod rhesymol.

 

Cwcis

Ein defnydd o gwcis

Mae cwcis yn ein helpu i ddarparu gwefan well i chi, drwy ein galluogi i fonitro pa dudalennau neu nodweddion sy’n ddefnyddiol i chi ac nad ydych yn eu defnyddio.

Beth yw Cwci?

Ffeil destun fach yw cwci sy’n cael ei storio ar eich cyfrifiadur neu ddyfais arall, pan gaiff gwefan ei llwytho ar eich porwr. Defnyddir cwci yn eang i ‘gofio’ chi a’ch dewisiadau. Ni all cwcis gael gafael ar unrhyw wybodaeth ar eich cyfrifiadur ac mae’r rhan fwyaf o borwyr gwe yn derbyn cwcis yn awtomatig. I ddysgu mwy am gwcis ewch allaboutcookies.org All About Cookies | Online Privacy and Digital Security (Gwefan allanol).

Rydym yn defnyddio’r cwcis canlynol

wp-wpml_current_language: Mae’r cwci yma yn ‘gwbl angenrheidiol’ i ddarparu swyddogaethau sylfaenol y wefan ac ni ellir ei diffodd. Mae’n cael ei ddefnyddio i gofio eich gosodiad iaith presennol.

 

Cysylltu â Ni

I gael rhagor o wybodaeth am ein polisi preifatrwydd a’n harferion gwybodaeth cysylltiedig, neu i gael gafael ar eich gwybodaeth bersonol neu i’w chywiro, neu i wneud cwyn, cysylltwch â ni ar SwyddogDiogeluData@gwynedd.llyw.cymru