ADNODDAU E-DDYSGU

Mae gan y tîm datblygu brofiad helaeth yn cynhyrchu adnoddau e-ddysgu mewn amrywiaeth o feysydd ar gyfer ystod o oedrannau gwahanol. Mae’r tîm yn cyd-weithio ag awduron/arbenigwyr allanol er mwyn cynhyrchu adnoddau o’r safon uchaf. Maent â phrofiadau ac arbenigeddau cyfoethog fel tîm i ymgymryd â chyflawni prosiectau amrywiol i gleientiaid lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol gwahanol. 

 

Dyma rai o wasanaethau y tîm datblygu:

  • Gwaith ffilmio / cynhyrchu fideo (ac yn berchen offer a meddalwedd proffesiynol ei hunain) 
  • Gwaith recordio / golygu sain (ac yn berchen offer a meddalwedd proffesiynol ei hunain) 
  • Arlunwaith gwreiddiol 
  • Animeiddiadau gwreiddiol 
  • Dylunio a datblygu gwefannau rhyngweithiol statig a deinamig 
  • Creu aps ac e-Lyfrau rhyngweithiol aml-blatfform.

 

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â : ymholiadau@gwasanaethdysgudigidol.cymru

 

Dyma enghreifftiau o rai o’r prosiectau rydym wedi ei ddatblygu i nifer o gleientiaid. Ceir amrywiaeth o adnoddau (Aps, e-lyfrau, adnoddau HTML5) ar gyfer ystod eang o oedrannau.

Mae’r gwaith i’w weld ar iTunes, HWB, CBAC, GwE a gwefan adnoddau rheolaethol ac addysgol Awdurdod Addysg Gwynedd a Môn. 

Portffolio

GWEITHGAREDDAU
RHESYMU

E-GYLCHGRAWN CREFYDD
GWERTHOEDD A MOESEG

RHESYMU'N
RHIFIADOL

E-BAPUR NEWYDD
Y CLICIADUR

CIP AR
FATHEMATEG

E-LYFRAU
MATHEMATEG

E-LYFR GWYLIA
DY HUN GWION

GWERTHUSO
CERDDORIAETH TGAU

DYSGU TRWY
DAEARYDDIAETH

DYLUNIO A
THECHNOLEG

BUSNES AR WAITH

E-LYFR LLYTHRENNEDD

ON Y VA

LLETYGARWCH AC ARLWYO:
IECHYD, DIOGELWCH A HYLENDID

LLETYGARWCH AC ARLWYO:
DEFNYDDIO CYFARPAR BACH

MYFYRIWR ADEILADU

ADEILADU RHITHWIR