Mae gan y tîm brofiad helaeth o gynhyrchu gwefannau a systemau ar-lein arloesol ym myd addysg ers blynyddoedd ac yn cartrefu llwyfannau dysgu (megis moodle) i ysgolion ac awdurdodau addysg. Mae’r Uned wedi creu nifer o systemau arloesol gwreiddiol yn cynnwys Systemau Arfarnu ddefnyddir gan ysgolion ledled Cymru.
Mae gennym dîm datblygu cryf a phroffesiynol gyda phrofiad eang mewn amrywiaeth o feysydd – yn cynnwys:
- Dylunio a datblygu gwefannau rhyngweithiol
- Datblygu systemau rheolaethol ar-lein
- Creu a dadansoddi holiaduron / dadansoddi data
- Rheoli a chartrefu llwyfannau dysgu
Mae’r Uned hefyd yn paratoi cymorth technegol a gweinyddol ar ddefnydd o’r gwefannau / systemau maent yn ei datblygu.
Am fwy o wybodaeth am unrhyw wasanaeth rydym yn ei gynnig, cysylltwch â ymholiadau@gwasanaethdysgudigidol.cymru