AMDANOM NI

Pwy ydan ni? 

Mae Gwasanaeth Dysgu Digidol yn wasanaeth newydd sy’n cefnogi dysgu/addysgu digidol er mwyn sicrhau’r cyfle gorau i ddisgyblion.

Mae’r tîm yn wreiddiol o Sefydliad Cwmni CYNNAL gyda phrofiad helaeth o gynhyrchu amrywiaeth o adnoddau a systemau o’r safon uchaf. 

Ein bwriad

Ein bwriad yw cynnig y ddarpariaeth ddigidol orau i gefnogi ein dysgwyr a’n hathrawon i feithrin ystod o sgiliau i ddefnyddio technoleg yn hyderus, creadigol ac yn feirniadol drwy:

 

  • gefnogi a hyfforddi ar y defnydd o systemau rheoli gwybodaeth ysgolion
  • dylunio a datblygu adnoddau addysgol rhyngweithiol i ysgolion Cymru 
  • dylunio graffeg
  • datblygu systemau i gefnogi addysgu ar-lein. 
  • trefnu cyrsiau hyfforddi i uwchsgilio athrawon i ddefnyddio technoleg yn effeithiol 
  • cefnogi a hwyluso y defnydd o Lwyfannau Dysgu