E-gylchgrawn dwyieithog tymhorol yn cynnwys cyfres o erthyglau, tasgau a gweithgareddau cyfoes sy’n hybu sgiliau a dealltwriaeth o fewn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg o fewn y Maes Dysgu a Phrofiad Y Dyniaethau gan osod crefydd mewn cyd-destun eang a pherthnasol.
Mae’r erthyglau trawsgwricwlaidd yn cynnig symbyliad i drafodaeth ehangach yn y dosbarth.
Mae posib ei ddefnyddio o fewn gwersi ar fwrdd rhyngweithiol neu ei osod fel gwaith annibynnol o adref.
Gellir ei ddefnyddio ar gyfrifiadur / gliniadur / iPad neu unrhyw ddyfais digidol o’r fath.
Mae’r adnodd yma wedi’i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru.