E-bapur Newydd dwyieithog addas i Gamau Cynnydd 1 – 3 sy’n eu helpu i fod yn ymwybodol o faterion cyfoes yng Nghymru a byd eang. Gellir ei ddarllen a’i drafod yn y dosbarth neu gall dysgwyr ei ddarllen a’i fwynhau yn annibynnol.
Ym mhob rhifyn o’r Cliciadur mae amrywiaeth o erthyglau ac adrannau sy’n diwallu anghenion ac yn datblygu 4 diben Cwricwlwm i Gymru, e.e. syniadau creadigol a chelfyddydol, gwyddoniaeth a thechnoleg, gwaith a gyrfaoedd a materion egwyddorol cenedlaethol a rhyngwladol. Yn ogystal mae’r rhifynnau yn diwallu anghenion y 6 Maes Dysgu a Phrofiad ac yn hybu sgiliau trawsgwricwlaidd.
Mae’r adnodd yma wedi’i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru.