Dyma adnodd dwyieithog sy’n cynnwys cyfres o weithgareddau amlgyfrwng addysgu a dysgu i gefnogi cwrs Dylunio a Thechnoleg CBAC. Mae’r adnodd yn cefnogi addysgeg ryngweithiol gyfredol, gan gynnwys asesu ar gyfer dysgu.
Mae posib ei ddefnyddio o fewn gwersi ar fwrdd rhyngweithiol neu ei osod fel gwaith annibynnol o adref.
Gellir ei ddefnyddio ar gyfrifiadur / gliniadur / iPad neu unrhyw ddyfais digidol o’r fath.
Mae’r adnodd yma wedi’i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru.