SYSTEM COFNODI YMWELWYR

Cofnodi ymwelwyr i’ch ysgol mewn dull modern, diogel, di-bapur ac effeithiol ar gyfer cofrestru ymwelwyr â’ch ysgol.

Mae Gwasanaeth Dysgu Digidol wedi datblygu system ddigidol ddwyieithog arloesol i gofnodi ymwelwyr â’ch ysgol mewn proses ddiogel, syml a chyflym. Gellir gosod y system ar iPad ar stondin yn y dderbynfa neu unrhyw ddyfais sydd â phorwr. I arbed costau mae posib defnyddio’r system gyda chod QR yn unig. Gall ymwelwyr gofnodi yn ddigyswllt drwy ddefnyddio ffôn glyfar a chod QR.

Dewis diogel i gymryd lle llyfrau ymwelwyr. Gallwn deilwra’r ffurflenni yn arbennig i’ch anghenion chi. Mae’r system yn cynnwys cyfrif gweinyddwr sy’n rhoi trosolwg byw o ymwelwyr yr ysgol. Gallwch weld y dashfwrdd gweinyddol drwy’r we ar unrhyw ddyfais o unrhyw le!

NEWYDD: Mae posib personoleiddio’r system i gynnwys logo a lliwiau’r ysgol!

Cost

Prisiau’n amrywio o £84.99 + TAW i £134.99 + TAW (yn dibynnu ar CLG).

Cwblhewch y ffurflen isod am fwy o wybodaeth

4 + 14 =