GWEFAN YSGOL

Nod Gwasanaeth Dysgu Digidol yw cyfoethogi dysgu drwy dechnoleg.

Wrth i’r we ddod yn un o lwyfannau cyfathrebu mwyaf, a’i fod yn dal i ddatblygu, Gwefan Ysgol yw ffenest siop yr ysgol er mwyn cyrraedd cynulleidfa eang i ddangos cyflawniadau, rhannu gwybodaeth bwysig gyda rhieni a hynny 24/7…

Dyma’ch cyfle i wneud argraff gyntaf gadarnhaol!

Mae gan GDD brofiad helaeth o ddatblygu a dylunio gwefannau unigryw i ysgolion a chleientiaid allanol ar draws Cymru.

Mae pob un o’n safleoedd yn ymatebol (responsive) h.y. yn addasu i’r ddyfais sy’n cael ei ddefnyddio fel ei fod yn edrych yn wych ar gyfrifiaduron, gliniaduron, tabledi a ffonau symudol yn y broses.

Rydym yn gwneud defnydd llawn o dechnolegau diweddar gan gynnwys HTML5 a javascript i ddarparu’r profiad gorau posibl i ddefnyddwyr. Gallwch integreiddio cyfrif Twitter, Facebook eich ysgol, Calendr Google / Office 365, fideos YouTube ymysg eraill i greu gwefan ddeniadol a deinamig.

Mae’r wefan wedi’i gynllunio fel bod modd i chi ddiweddaru’r cynnwys yn rhwydd eich hunain. Neu mi allwn ni ei ddiweddaru ar eich rhan chi!

Rydan ni’n adnabod fod sefyllfa ariannol yn dynn mewn ysgolion ac felly, rydym yn cynnig 2 becyn gwahanol â phrisiau cystadleuol sydd wedi’u cynllunio i gwrdd ag anghenion eich ysgol:

Cwblhewch y ffurflen isod am fwy o wybodaeth

14 + 7 =