GWEFANAU I GLEIENTIAID ALLANOL

Mae gan GDD brofiad helaeth o ddatblygu a dylunio gwefannau unigryw i ysgolion a chleientiaid allanol ar draws Cymru.

Rydym yn adnabod pwysigrwydd presenoldeb ar y we. Mae’r we yn un o lwyfannau cyfathrebu mwyaf, ac yn dal i ddatblygu. Mae presenoldeb ar y we yn golygu cyrraedd cynulleidfa eang i ddangos eich gwaith, rhannu gwybodaeth bwysig a hynny 24/7…

Gallwn ddatblygu gwefan i ddiwallu eich anghenion, boed hynny’n creu gwefan gyffredin, neu’n system benodol sy’n cadw data, neu yn gêm. Rydym yn meithrin yr holl sgiliau ac adnoddau sydd ei angen i greu gwefan ddeinamig, fodern yn fewnol, sy’n sicrhau pris teg i’n cwsmeriaid.

Mae pob un o’n safleoedd yn ymatebol (responsive) h.y. yn addasu i’r ddyfais sy’n cael ei ddefnyddio fel ei fod yn edrych yn wych ar gyfrifiaduron, gliniaduron, tabledi a ffonau symudol yn y broses.

Rydym yn gwneud defnydd llawn o dechnolegau diweddar gan gynnwys HTML5 a javascript i ddarparu’r profiad gorau posibl i ddefnyddwyr.

Mae’r wefan wedi’i gynllunio fel bod modd i chi ddiweddaru’r cynnwys yn rhwydd eich hunain. Neu mi allwn ni ei ddiweddaru ar eich rhan chi!

Cwblhewch y ffurflen isod am fwy o wybodaeth

10 + 12 =