CYNLLUN DATBLYGU
UNIGOL AR-LEIN

Mae CDU ar-lein yn system TGCh Anghenion Dysgu Ychwanegol yn y cwmwl. Un system hollol ddwyieithog ar gyfer eich holl anghenion o ran prosesau a gweinyddiaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Gall CDU ar-lein gael ei addasu’n rhwydd i anghenion awdurdodau unigol i gyflymu prosesau cyfeirio, lleihau llwyth gwaith a chydweddu gyda phrosesau sydd eisoes mewn lle.

Mae CDU ar-lein wedi’i ddatblygu ar y cyd â Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn i gefnogi ysgolion a cholegau i weithredu gofynion y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.

Mae CDU ar-lein yn cefnogi un o egwyddorion allweddol y system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) – cydweithredu rhwng pawb sy’n ymwneud ag adnabod anghenion a chynllunio a darparu cymorth i blant a phobl ifanc ag ADY.

Mae CDU ar-lein yn cefnogi cydweithredu rhwng dysgu, teuluoedd, ysgolion a gweithwyr proffesiynol, a dull sy’n llwyr sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn wrth lunio Cynllun Datblygu Unigol (CDU) a’r cynllunio a chofnodi o Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol, er mwyn sicrhau’r deilliannau gorau i ddysgwyr ag ADY.

Am fwy o wybodaeth am fuddion y system ewch i wefan https://info.cduarlein.cymru/benefits/

Cwblhewch y ffurflen isod am fwy o wybodaeth

1 + 9 =