Geirfa Allweddol
Ail-genhedlu - y gred pan fydd y corff yn marw mae’r enaid yn cael ei ail-genhedlu i mewn i gorff arall.
Anghydraddoldeb rhywedd - gwahaniaethu ar sail rhyw neu gender sy'n achosi i un rhyw neu gender gael ei freintio neu ei flaenoriaethu fel mater o drefn dros un arall.
Ariangarwch - gosod arian a phres fel y peth pwysicaf mewn bywyd.
Caethiwed - mynd i’r arferiad o wneud rhywbeth gan fethu rhoi gorau iddi.
Cyffur - unrhyw sylwedd sy’n cael ei gyflwyno i’r corff ac sy’n newid y ffordd y mae’r meddwl a’r corff yn gweithio.
Cymdeithas batriarchaidd - strwythur cyffredinol lle mae gan ddynion bŵer dros fenywod.
Dharma - dysgeidiaethau'r Bwdha.
Dibyniaeth - y cyflwr o fethu gwneud heb ryw sylwedd neu gyffur.
Dukkha - y ddysgeidiaeth bod bywyd yn anfoddhaol/llawn dioddefaint.
Ffeministiaeth - ymladd dros hawliau cyfartal i fenywod.
Fix - dôs o gyffur y mae rhywun yn gaeth iddo
Gamblo - cymryd rhan mewn gêm neu weithgaredd lle mae person yn mentro arian neu eiddo yn y gobaith o ennill arian.
Ganges - afon yn India sy’n cael ei hystyried gan lawer o Hindŵiaid a Sikhiaid fel yr afon fwyaf sanctaidd yn y byd.
Ganja - enw Rastaffariaid ar y cyffur canabis neu marijuana.
Goleuedigaeth - trawsnewid i fyd arall o realiti, dianc o gylch bywyd y byd hwn.
Gurmukh - yr enw ar rywun mewn Sikhiaeth sy’n byw yn ôl ewyllys Duw.
Guru Granth Sahib - awdurdod uchaf Sikhiaeth - mae’n cynnwys dysgeidiaeth y deg Guru Sikhiaid.
Gwahaniaethu - trin rhai pobl yn wahanol i eraill.
Haile Selassie - Ymerawdwr Ethiopia 1930 – 1974. Mae Rastaffariaid yn credu mai ef yw Duw.
Haram - pethau sydd wedi eu gwahardd mewn Islam.
Hawliau dynol - hawliau y dylai pob bod dynol eu derbyn.
Heroin - cyffur sy’n cael ei wneud o opiwm
Khamr - y gair mewn Islam am unrhyw beth sy’n cymylu’r meddwl.
Manmukh - yr enw Sikhiaid am rywun sy’n hunanol ac yn anwybyddu ewyllys Duw.
Mynd yn gaeth - mynd yn gwbl ddibynnol ar ryw gyffur a methu gwneud hebddo (addicted).
Nirvana - rhyddhad llawn o ddioddefaint y byd hwn.
Opiwm - cyffur sydd yn y popi opiwm ac sy’n sail i’r cyffur heroin.
Pechod - yr hyn sydd yn ddrwg o safbwynt crefyddol.
Rahit Maryada - cod disgyblaeth Sikhiaeth.
Rastaffariaeth - crefydd a ddatblygodd yn Jamaica yn ystod y 1930au.
Rhagfarn - barn ragdybiedig nad yw'n seiliedig ar reswm na phrofiad gwirioneddol.
Rȇf - parti bywiog yn cynnwys bwyd a chyffuriau.
Sangha - y gymuned Fwdhaidd.
Sansgrit - iaith Indiaidd hynafol.
Swffragetiaid - menyw sy'n ceisio'r hawl i bleidleisio drwy brotest drefnus.
Taliban - Grŵp ffwndamentalaidd Islamaidd sy’n rheoli Afghanistan ers 2021.
Talmud - casgliad o weithiau sy’n esbonio cyfraith yr Iddewon.
Torah - cyfraith Duw i’r Iddewon / pum llyfr cyntaf y Beibl Iddewig.
Y Bwdha - sylfaenydd Bwdhaeth.
Y Cenhedloedd Unedig - sefydliad rhynglywodraethol a'i ddiben datganedig yw cynnal heddwch a diogelwch rhyngwladol.
Y Lotus Sutra - testun Bwdhaidd crefyddol.
Ysbrydolrwydd - Ymwneud â'r ysbryd neu'r enaid dynol yn hytrach na phethau materol neu gorfforol.