Pererindod Eingl-Gatholig
Meddyliwch am ganolfannau crefyddol pwysicaf Cymru. Lle sy’n dod i’r meddwl?
• Tŷ Ddewi;
• Ynys Enlli;
• Cartref yr Esgob William Morgan ger Betws y Coed;
• Cartref William Williams, Pantycelyn ger Llanymddyfri;
• Capel Non, mam Dewi Sant.
Beth sydd gan y rhain yn gyffredin? Wel! Maent i gyd yn y gorllewin. Beth am leoedd yn nwyrain Cymru? Mae’n rhaid bod lleoedd o bwys yno hefyd.
Dwy ganolfan grefyddol o bwys yn nwyrain Cymru yw Treffynnon (Holywell) yn Sir y Fflint a safle Penrhys yn Sir Rhondda Cynon Taf.
Mae’r ddau safle yn cael eu disgrifio fel canolfannau Eingl-Gatholig ambell dro gan fod ganddynt gysylltiadau Anglicanaidd a Chatholig cryf.
Treffynnon

Map yn dangos lleoliad Treffynnon
Tref fechan yng Ngogledd-Ddwyrain Cymru yw Treffynnon. Bu yn ganolfan pererindod o bwys ers yr Oesoedd Canol.
Daeth y dref yn enwog fel lleoliad Ffynnon Gwenffrewi a’i chapel. Bu’n ganolfan pererindod i Gatholigion, Anglicaniaid ac eraill ers canrifoedd.
Digon anffodus fu hanes Gwenffrewi fel sawl santes arall. Roedd yn byw yn y 7fed Ganrif ac yn nith i Sant Beuno. Syrthiodd y tywysog Caradog mewn cariad â
Gwenffrewi ond gwrthododd ef. Gan iddi ei wrthod fe wnaeth Caradog dorri ei phen i ffwrdd ond trwy wyrth achubodd St. Beuno ei bywyd. Daeth ffynnon o ddŵr
i’r golwg lle yr achubwyd ei bywyd yn wyrthiol.
Gydag amser daeth pererinion at y ffynnon. Codwyd adeiladau arbennig yno ar orchymyn Margaret Beaufort, mam Harri Tudur (Harri VII yn ddiweddarach).
Roedd hyn rhwng 1490 a 1500 OC. Mae’r adeiladau a welir yno hyd heddiw yn drawiadol iawn. Mae dŵr y ffynnon mewn pwll siâp seren ac mae pileri hardd o’i gwmpas.
Ger y ffynnon mae capel hynafol iawn sydd wedi cael ei atgyweirio dros y blynyddoedd. Gerllaw mae eglwys yr ardal ac mae’r holl safle yn cael ei ystyried fel un o
Saith Rhyfeddod Cymru.

‘Lourdes Cymru’
Kristoffer Hughes
(https://www.cardiffcathedral.org.uk/penrhys/)
Y mae rhai wedi disgrifio Treffynnon fel ‘Lourdes Cymru’ sy’n tanlinellu ei bwysigrwydd fel canolfan pererindod.
Bu pobl yn mynd yno ar daith grefyddol ers y seithfed ganrif gan barhau i wneud hynny hyd heddiw. Dyma’r drefn o fynd yno:
• Ymdrochi yn nŵr y ffynnon. Mae pebyll i’w gweld o gwmpas y pwll allanol ar gyfer newid.
Gweler rhifyn o’r gyfres Cynefin a fu ar S4C
https://www.s4c.cymru/clic/programme/832925030/Chwilio%20S4C.
Yma gwelir Iestyn Jones, un o’r cyflwynwyr yn ymdrochi yn y ffynnon!
Yn ei sgwrs ag ef mae Roberta Owen yn pwysleisio fod pererinion wedi dod yma ers 1,300 o flynyddoedd. Mae 30,000 yn dal i ddod pob blwyddyn
ac mae hanesion am bobl yn cael eu hiachau’n wyrthiol yn dilyn hynny!
• Yr arferiad yw ymdrochi tair gwaith yn y pwll allanol, er mae’n bosib gwneud hynny yn y pwll mewnol hefyd.
• Gerllaw mae Carreg Beuno lle y dywedir i St.Beuno ddysgu Gwenffrewi. Yma mae pererinion yn penlinio wrth orffen eu defosiwn.
• Bydd rhai yn llenwi boteli gyda dŵr sanctaidd o’r ffynnon gan oleuo canhwyllau wrth gyflwyno eu gweddïau.
• Dyma sylw un ymwelydd ar Tripadviser: ‘Lle hyfryd i ymweld ag o. Fe wnaethom ymdrochi yn y dŵr iachusol oedd yn rhyfeddol ac yn ysbrydol iawn.
Mae’n llawn hanes ac ystyr crefyddol – gwerth chweil i bawb.’

‘Lourdes Cymru’
(© chestertouristcom https://www.geograph.org.uk/photo/219187)
Penrhys

Lleoliad Penrhys
(Bing Maps | https://www4.bing.com/maps?FORM=Z9LH2)
Pentref yn Sir Rhondda Cynon Taf yw Penrhys. Y mae wedi ei leoli dros fil o droedfeddi ar fryn rhwng cymoedd Rhondda Fawr a Rhondda Fach, i’r gogledd orllewin o Gaerdydd. Mae’n debyg fod y lle yn gysylltiedig â dau beth; stad enfawr o dai cyngor gyda’i phroblemau cymdeithasol a, chanolfan crefyddol a phererindod sy’n mynd yn ôl canrifoedd.
Mae hanes Cristnogol Penrhys yn mynd yn ôl ymhell. Daeth yn enwog yn dilyn hanesion i rai weld y Forwyn Fair yno ac i gerflun ohoni ymddangos yn wyrthiol yn y 13eg Ganrif.
Ymddangosodd ffynnon o ddŵr oedd yn iachau. Erbyn yr Oesoedd Canol roedd yno fynachlog, cysegrle i’r Forwyn Fair, capel i weddïo a Ffynnon Fair.
Roedd hanesion am bobl yn cael eu hiachau yn wyrthiol gyda dŵr o’r ffynnon gan fod ganddo bwerau arbennig.
Ystyriwyd y dŵr yn arbennig o dda at cryd y cymalau (arthritis) a phroblemau gyda’r llygaid.
Pan ddaeth y Diwygiad Protestannaidd cafodd y cysegrle ei ddinistrio gan gynnwys cerflun arbennig o’r Forwyn Fair.
Bu tipyn o waith adfer ar y lle yn ystod yr 20fed Ganrif yn cynnwys cerflun newydd o Mair yn 1953.

Cerflyn ac Ffynnon Fair
(Heather Cowper Flickr | August Schwerdfeger WIKIPEDIA)
Er gwaetha’r hanes hir a chythryblus parhau wnaeth pwysigrwydd Penrhys i Gatholigion, Anglicaniaid a Christnogion eraill.
Bu adfywiad yn y diddordeb o deithio yno. O ganlyniad trefnir pererindota yno o Gaerdydd, o Eglwys Gadeiriol Llandaf yn benodol.
Dyma ddisgrifiad safle gwe’r bererindod o’r daith:
http://www.penrhyspilgrimageway.wales/cym/
‘Mae'r ffordd yn dilyn llwybrau cyhoeddus am 21 milltir o Gadeirlan Llandaf yng Nghaerdydd i Benrhys yn y Rhondda.
Mae'n cael ei rhannu i chwe rhan ac mae'n bosib cyrraedd sawl man ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Fe all y llwybr gael ei gerdded fesul darn neu ddarnau ar y tro. Neu mae'n bosibl ei gerdded ar ei hyd dros ddeuddydd, gan aros un noson yn Llantrisant.
Mae'r llwybr yn mynd trwy neu'n agos at fannau o ddiddordeb - ac yn ystod y siwrnai, peidiwch ag anghofio printio pasbort a chasglu'r
unarddeg stamp sy wedi eu cynllunio'n arbennig’.

Ffordd Pererindod
(http://www.penrhyspilgrimageway.wales | www.walesonline.co.uk)