Gwerthoedd Pobl Ifanc a Newid yn yr Hinsawdd
Newid yn yr hinsawdd, datgoedwigo, llygredd a cholli bioamrywiaeth yw rhai o'r heriau mwyaf sy'n wynebu'r byd heddiw, a thrwy'r cyfryngau gwelwn fod pobl ifanc yn camu i'r adwy i fynd i'r afael â'r materion hyn, gan arwain y frwydr am newid a dadlau'n angerddol dros amddiffyn y blaned. Mae eu pryder am yr amgylchedd yn adlewyrchu eu hymdeimlad dwfn o gyfrifoldeb i ofalu am y Ddaear, wedi'i yrru gan werthoedd tegwch, cyfiawnder a chynaliadwyedd.
Mae nifer o bobl ifanc heddiw yn poeni'n arw am yr amgylchedd ac maen nhw'n aml yn flaenllaw mewn mudiadau sy'n pwyso am weithredu ar newid yn yr hinsawdd. Mae llawer yn cymryd rhan mewn streiciau hinsawdd, yn cefnogi ynni adnewyddadwy, ac yn mynnu polisïau sy'n amddiffyn iechyd y blaned. Ond mae'r gweithredu hwn yn mynd y tu hwnt i wleidyddiaeth yn unig – mae hefyd wedi'i wreiddio mewn synnwyr moesol a moesegol cryf. I bobl ifanc, mae diogelu'r amgylchedd yn cael ei ystyried yn fater o gyfiawnder. Maen nhw'n ystyried y difrod sy'n cael ei wneud i'r Ddaear fel problem ddifrifol, yn enwedig pan fydd yn effeithio ar gymunedau bregus a chenedlaethau'r dyfodol e.e. llifogydd neu stormydd yn difrodi adeiladau hanfodol ac yn dinistrio eiddo personol. Mae'r gred hon mewn tegwch a'r angen i ddiogelu'r rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan newid yn yr hinsawdd yn ysbrydoli llawer o'u gweithredoedd.
Un o'r syniadau allweddol sy'n ysgogi gwerthoedd amgylcheddol pobl ifanc yw'r syniad o "stiwardiaeth" – y gred bod gan fodau dynol gyfrifoldeb i ofalu am y Ddaear a'i hadnoddau. Mae'r gred hon yn cael ei rhannu ar draws diwylliannau, crefyddau a chymunedau, ac mae'n cyfarch yr angen i bawb gydweithio i ddiogelu'r blaned. Mae llawer o bobl ifanc yn gweld eu hunain fel stiwardiaid y Ddaear. Un enghraifft ydy Poppy Stowell-Evans, cyn gadeirydd Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru (LHC). Mae LHC yn grŵp o 12 o bobl ifanc o bob cwr o Gymru sy'n ymgyrchwyr hinsawdd angerddol sy'n brwydro dros gyfiawnder hinsawdd.
![]() Llun o aelodau LHC yng nghynhadledd Ysgogwyr Newid 2024 yng Nghaerdydd |
Mae Poppy yn credu mai ein dyletswydd ni yw sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn gallu mwynhau planed iach.
![]() Poppy Stowell-Evans |
"Yn aml, fel actifydd hinsawdd ifanc, gofynnir i mi sut mae gorbryder am newid hinsawdd wedi effeithio arna i. Fel arfer rwy'n trafod sut mae ofn diffyg gweithredu wedi achosi llawer o nosweithiau di-gwsg imi, o hunllefau i'r teimlad llethol o ddiffyg pŵer. Fodd bynnag, ateb rydw i wedi'i hyrwyddo ac y byddaf yn parhau i'w hyrwyddo i fynd i'r afael â gorbryder am newid hinsawdd yw gweithredu eich hun ac, yn bwysicaf oll, deall pam rydych chi am gymryd y camau hyn." (Poppy Stowell-Evans, 2022)
Gwyliwch y fideo isod - Poppy Stowell-Evans yn trafod gorbryder newid hinsawdd.
Maen nifer o bobl ifanc yn credu mai eu dyletswydd nhw yw sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn gallu mwynhau planed iach. Mae'r ymdeimlad hwn o gyfrifoldeb yn eu hannog i weithredu, boed hynny drwy leihau eu hôl troed carbon eu hunain, codi ymwybyddiaeth, neu ddadlau dros newidiadau polisi ar raddfa fawr.
Pan ofynnwyd "Beth mae Stiwardiaeth yn ei olygu i chi?", atebodd Cadi Midwood o Ysgol Botwnnog, "I mi, mae'n golygu gofalu am y byd a'i gynnal ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol fel y gallan nhw barhau i fwynhau'r hyn sydd gennym ni heddiw". Mae'n dangos bod gan bobl ifanc fel Cadi agwedd dorfol tuag at newid hinsawdd, sy'n hanfodol er mwyn gallu mynd i'r afael â'r mater.
I lawer o bobl ifanc, mae gweithredoedd amgylcheddol wedi'i chysylltu'n agos â'u gwerthoedd personol. Maen nhw'n gweld amddiffyn y blaned nid yn unig fel anghenraid ymarferol ond hefyd fel mynegiant o'u credoau am degwch, cyfiawnder, a pharch at bob peth byw. Er enghraifft, mae gweithredwyr ifanc yn aml yn pwysleisio pwysigrwydd cynaliadwyedd – gwneud yn siŵr ein bod yn defnyddio adnoddau naturiol mewn ffordd sydd ddim yn eu disbyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Maen nhw hefyd yn tynnu sylw at yr angen i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb, gan fod newid yn yr hinsawdd yn aml yn effeithio'n anghymesur ar gymunedau a gwledydd tlotach sydd leiaf gyfrifol am ei achosi. Mae'r pryder hwn am degwch yn ysgogi llawer o bobl ifanc i bwyso am bolisïau hinsawdd sydd nid yn unig yn diogelu'r amgylchedd ond sydd hefyd yn helpu'r rhai sy'n cael eu heffeithio fwyaf gan ei gyflwr drwg.
Un o ymgyrchoedd diweddaraf LHC sy’n pwyso am bolisi hinsawdd yw codi ymwybyddiaeth o Ffoaduriaid Hinsawdd. Mae LHC yn teimlo'n gryf am roi deddfwriaeth ar waith i amddiffyn Ffoaduriaid Hinsawdd y dyfodol. Ffoaduriaid Hinsawdd yw pobl sydd wedi gorfod gadael eu cartref oherwydd newid yn yr hinsawdd - colli eu cartrefi, eu diogelwch, a'u ffordd o fyw. Mae LHC yn anelu at dderbyn 10,000 o lofnodion gan y cyhoedd yn y DU a derbyn ymateb gan y Senedd ar y mater hwn.
Mewn blog, mae Poppy (cyn-gadeirydd LHC) yn myfyrio ar ei rhesymau dros ymuno â LHC - "Ro’n i eisiau creu'r newid yr oeddwn angen ei weld, nid yn unig i mi fy hun, ond i'r rhai ar draws y byd sydd wedi cael eu hanwybyddu- y bregus mewn cymdeithas a adawyd i ofalu drostynt eu hunain wrth iddynt wynebu canlyniadau ein gweithredoedd di-hid a hunanol". (Poppy Stowell-Evans, 2021)
Mae'r camau y mae pobl ifanc yn eu cymryd i ddiogelu'r blaned yn enghraifft bwerus o'u hymrwymiad i werthoedd amgylcheddol. Boed nhw'n cymryd rhan mewn protestiadau, yn gweithio i leihau gwastraff, neu'n cefnogi'r newid i ynni adnewyddadwy, mae pobl ifanc yn dod o hyd i ffyrdd o wneud gwahaniaeth.
![]() Llun o Poppy yng Nghynhadledd Newid Hinsawdd y DU yn 2021. |
Fel y soniwyd yn erthygl 1, y mwyaf nodedig heddiw yw Greta Thunberg – ym mis Awst 2018, yn 15 oed, dechreuodd Thunberg beidio mynd i'r ysgol, gan addunedu i gadw draw o'r ysgol tan ar ôl etholiad yn Sweden i geisio dylanwadu ar y canlyniad. Protestiodd y tu allan i Senedd Sweden lle galwodd am weithredu cryfach ar newid hinsawdd trwy ddal arwydd Skolstrejk för Klimatet (Streic Ysgolion dros yr Hinsawdd) i fyny a dosbarthu taflenni gwybodaeth. Arweiniodd hyn at enwogrwydd byd-eang a'i gwneud hi'n arweinydd ad hoc yn y gymuned gweithredwyr hinsawdd. Wynebodd feirniadaeth lem, gyda llawer o hynny yn ei gwawdio fel unigolyn ifanc naïf, ond mae dylanwad Thunberg ar lwyfan y byd wedi cael ei ddisgrifio gan nifer o ffynonellau yn y cyfryngau fel "Effaith Greta". Mae hi wedi derbyn anrhydeddau a gwobrau, gan gael ei chynnwys ymysg 100 unigolyn mwyaf dylanwadol cylchgrawn Time, ei henwi fel Unigolyn y Flwyddyn ieuengaf cylchgrawn Time yn 2019, ei chynnwys yn rhestr Forbes o 100 o Ferched Mwyaf Pwerus y Byd (2019), a'i henwebu fwy nag unwaith am y Wobr Heddwch Nobel.
Gwyliwch y cyfweliad isod - Greta Thunberg yn trafod sut i daclo gorbryder newid hinsawdd
Fel Thunberg, mae llawer o bobl ifanc hefyd yn cofleidio ffyrdd cynaliadwy o fyw – gan leihau defnydd, osgoi plastig untro, a dewis cynnyrch ecogyfeillgar. Drwy wneud y dewisiadau hyn, maen nhw'n dangos y gall gweithredoedd unigol gyda'i gilydd gael effaith fawr. Dywedodd Katie a Kacey o Ysgol Botwnnog eu bod yn cyfrannu at ffordd gynaliadwy o fyw drwy fod yn ymwybodol o faint maen nhw'n ei ddefnyddio. Mae gorddefnydd o ddillad yn golygu bod tunelli o wastraff yn cael ei anfon i safleoedd tirlenwi, felly mae defnyddio apiau fel Vinted neu Depop yn cyfrannu at yr economi gylchol ac yn arbed arian i chi ar yr un pryd! Fodd bynnag, maen nhw hefyd yn deall bod angen newidiadau mawr, a dyna pam eu bod nhw'n dadlau dros bolisïau llywodraethol a chorfforaethol sy'n mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ar raddfa fwy.
Mae gwerthoedd pobl ifanc heddiw yn rym pwerus ar gyfer newid. Mae eu hymrwymiad i degwch, cyfiawnder a chynaliadwyedd yn ysgogi mudiad byd-eang i amddiffyn y blaned. Drwy sefyll dros yr amgylchedd, mae pobl ifanc yn dangos eu bod nid yn unig yn poeni am eu dyfodol eu hunain ond hefyd am les cenedlaethau'r dyfodol a'r cymunedau mwyaf bregus. Wrth i fwy o bobl ifanc weithredu, maen nhw'n arwain y ffordd tuag at fyd iachach a mwy cynaliadwy.
"Mae'r argyfwng hinsawdd yn ein dwylo ni, achos yn y pen draw mae llais yr un mor bwysig â phwy ry'n ni'n ystyried sydd â'r 'pŵer' - plîs peidiwch bod ofn ei ddefnyddio!" (Poppy Stowell-Evans, 2021)