Cyffuriau
Mae’r rhan fwyaf ohonom ar wahanol adegau yn ein bywydau yn defnyddio cyffuriau o ryw fath. Be felly ydi cyffur? Yn gyffredinol, sylwedd cemegol sy'n newid y ffordd y mae’r meddwl neu’r corff yn gweithio. Ceir cyffuriau a ddefnyddir i drin afiechydon a chyffuriau hamddenol, rhai yn gyfreithlon fel alcohol a baco ac eraill yn anghyfreithlon fel canabis a heroin. Bydd yr erthygl yma yn ymdrin a chredoau tair crefydd, Rastaffariaeth, Sikhiaeth ac Islam, tuag at y defnydd o gyffuriau anghyfreithlon.

Y defnydd o gyffuriau anghyfreithlon
Yn sicr mae problem cyffuriau yn un o broblemau mawr y gymdeithas gyfoes ac yn arwain at filoedd ar filoedd o fywydau yn cael eu chwalu bob blwyddyn. Mae nifer o resymau pam mae pobl yn troi at gyffuriau anghyfreithlon – help i ymlacio, ymdopi â straen a phroblemau bywyd bob dydd. Gall pobl ifanc gael eu hudo i’w profi oherwydd pwysau gan ffrindiau o’r un oed, a’r addewid eu bod yn arwain at gael hwyl ac at wneud iddynt deimlo’n well, teimlo’n ‘high’ fel y dywedir. Yn anffodus yn aml nid ydynt yn ymwybodol o’r peryglon a pha mor hawdd y gall problem gyffuriau difrifol ddatblygu. Yng Nghymru mae marwolaethau o ganlyniad i wenwyn cyffuriau wedi cynyddu 78 y cant dros y 10 mlynedd diwethaf.
Dim ond un, dim ond unwaith – yn y
i brofi o’i afiaith,
Aeth un ag un yn ganwaith
A fix ar ôl fix yn ffaith.
Mae camddefnydd o’r cyffuriau hyn yn gallu arwain at ddibyniaeth a mynd yn gaeth, at broblemau meddygol, teuluol, cyfreithiol ac ariannol. Ond be felly sydd gan grefyddau i’w ddweud ar y mater?

Symbol Rastaffariaeth
Crefydd ifanc iawn ydi Rastaffariaeth a ddatblygodd yn Jamaica yn y 1930au ar ôl i Haile Selassie I gael ei goroni yn frenin ar Ethiopia. Mae llawer o Rastaffariaid yn credu mai Haile Selassie I yw Duw ac y bydd yn sicrhau bod pobl groenddu sy'n byw'n alltud mewn gwahanol wledydd, yn bennaf oherwydd y fasnach gaethweision, yn cael dychwelyd i Affrica. Mae'r llew yn y symbol yn cynrychioli Haile Selassie I sy’n cael y teitl ‘Llew Gorchfygol Jwda’ a mwng y llew yn cynrychioli’r ffordd mae Rastaffariaid yn trin eu gwallt mewn ‘dreadlocks.’ Lliwiau Rastaffariaeth yw coch, gwyrdd ac aur ond weithiau fe ychwanegir du.
Datblygwyd credoau a dysgeidiaeth y grefydd gan Marcus Garvey ymgyrchwr gwleidyddol dros hawliau cyfartal i bobl groenddu. Maent yn credu mai pobl groenddu yw pobl etholedig Duw; bod ail-genhedlu yn dilyn marwolaeth a bod bywyd yn dragwyddol. O ran ffordd o fyw nid yw Rastaffariaid yn credu mewn torri eu gwallt, bwyta cig yn enwedig porc ac maent yn ceisio bwyta cynnyrch naturiol fel ffrwythau a llysiau i fyw bywyd mor naturiol a phosib. Mae eu defodau crefyddol yn cynnwys cyfarfodydd gweddi a’r hyn a elwir yn ‘bingis’ sef seremonïau drymio drwy’r nos ac wrth gwrs allan o Rastaffariaeth y tyfodd cerddoriaeth ‘reggae’ a ddaeth yn boblogaidd yn rhyngwladol oherwydd dylanwad Bob Marley.

Bob Marley (© Eddie Mallin)
Un arall o ddefodau Rastaffariaeth yw ysmygu ‘ganja’ - chwynnyn doethineb neu’r llysieuyn sanctaidd sef enw’r Rastaffariaid ar y cyffur canabis. Pwrpas y ddefod yma ydi eu helpu i fyfyrio a drwy hynny sicrhau perthynas agosach â ‘Jah’ (Duw). Mae Ganja hefyd yn cael ei weld gan Rastaffariaid fel perlysieuyn bywyd, fel a grybwylld yn y Beibl. Mae defnydd Rastafariaid o ganja yn cael ei gyfiawnhau gan y Salmau 104:14 canlynol sy'n dweud, "Y mae yn peri i’r gwellt dyfu i’r anifeiliaid, a llysiau i wasanaeth dyn: fel y dyco fara allan o’r ddaear." Mae Rastafariaid hefyd yn dweud ei fod wedi ei ddarganfod yn tyfu wrth fedd y Brenin Solomon yn y Beibl. Yn ddiddorol maent yn erbyn pob cyffur arall ac nid yw Rastaffariaid yn yfed alcohol. Er gwaethaf yr hyn y mae llawer o bobl yn ei gredu, mae Rastaffariaid mewn gwirionedd yn condemnio'r defnydd cyffredinol o ganabis. Yn hytrach, fe’i defnyddir mewn seremonïau crefyddol a hynny mewn modd hynod ddefodol er mwyn cynyddu teimladau o undod a helpu i gynhyrchu gweledigaethau o natur ysbrydol.
Mae “sesiynau rhesymu” Rastaffariaeth yn gyfarfodydd crefyddol sy'n cynnwys myfyrdod grŵp, a defnyddir canabis i helpu'r dilynwyr i fynd i gyflwr tebyg i berlewyg. Mae'r canabis fel arfer yn cael ei ysmygu mewn pibell (neu "chalis") ac mae gweddi fer bob amser yn cael ei hadrodd cyn iddo gael ei ysmygu: “Gogoniant i'r tad ac i wneuthurwr y greadigaeth. Fel yr oedd yn y dechreuad y mae yn awr ac y bydd byth." Dyma ddywed Donisha Prendergast, wyres Bob Marley am y defnydd o ‘ganja’ - “Nid yw Rastaffariaid yn cymryd cyffuriau oherwydd nid yw ganja yn gyffur. Mae Ganja yn blanhigyn."
I Rastafariaid, mae ysmygu rhydd ganja yn hawl grefyddol ac yn fater o ryddid crefyddol; fodd bynnag, mae'n cael ei ystyried yn weithgaredd troseddol gan y rhan fwyaf o lywodraethau. Un o'r rhesymau pam fod Rastaffariaid yn gysylltiedig â throseddau gan awdurdodau yn yr 20fed ganrif yw eu cysylltiad â thyfu a dosbarthu’r cyffur marijuana.

Cred Sikhiaid bod y corff yn deml adeiladwyd gan Dduw ac felly dylid ei drin â gofal mawr. Mae cymryd cyffuriau yn cymylu’r meddwl ac yn achosi niwed i’r ysgyfaint, y galon a rhannau eraill o’r corff. Er bod cymryd cyffuriau yn gyffredin yn nyddiau Guru Nanak fe wrthododd ef wneud hynny gan ddweud ei fod yn gaeth i foli Duw. I Sikhiaid dylai’r meddwl fod yn glir bob amser er mwyn medru ymateb i ewyllys Duw. Mae’r Rahit Maryada, Côd Disgyblaeth Sikhiaeth yn nodi – ‘Ni ddylai Sikhiaid gymryd alcohol, tybaco na chyffuriau eraill.’
Mae’r Guru Granth Sahib, prif awdurdod crefydd Sikhiaeth yn gwahardd y defnydd o unrhyw fath o gyffuriau oni bai eu bod wedi eu rhoi gan feddyg am resymau meddygol. Mae’r defnydd o alcohol a chyffuriau eraill fel tybaco, canabis a heroin ar gyfer mwynhad personol neu reswm crefyddol yn cael ei gondemnio gan y Gurus Sikhiaid. Mae’r bobl sy’n defnyddio’r fath bethau yn gwastraffu eu bywydau ac yn byw mewn byd rhithiol. Mae’r Guru Granth Sahib yn cefnogi’r rhai sy’n ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd o’u cwmpas ac yn ymatal rhag cymryd cyffuriau o unrhyw fath. Dyma ddywed y Guru Granth Sahib - “Mae’r rhai nad ydynt yn defnyddio cyffuriau yn gywir; maen nhw’n trigo yn Llys yr Arglwydd.”
Mae cyffuriau hefyd yn cael eu cynnwys yn y pum drygioni mawr a restrir mewn Sikhiaeth, y pum drygioni sy’n rhwystro person rhag bod yn Gurmukh (un sy’n byw ei fywyd gan ganolbwyntio ar Dduw) ac yn ei wneud yn Manmukh (un sy’n byw ei fywyd gan ganolbwyntio arno’i hun). Y pump ydi chwant rhywiol, dicter, Maya(rhith), cyffuriau a chenfigen. Mae’r Guru Granth Sahib yn nodi’n glir na ddylai’r Gurmukh yfed gwin hyd yn oed pe bai wedi cael ei wneud o ddŵr y Ganges, afon a ystyrir gan lawer yn India fel yr afon fwyaf sanctaidd yn y byd - “Hyd yn oed os yw’r gwin wedi ei wneud o ddŵr y Ganges, O Saint, peidiwch â’i yfed." Dywed y Guru Granth Sahib: "Wrth yfed gwin, mae ei ddeallusrwydd yn mynd, a gwallgofrwydd yn dod i’w ben."

Islam
Mae pob math o gyffur yn cael ei wahardd gan Islam ac mae unrhywbeth sy’n cymylu’r meddwl yn cael ei alw’n Khamr. Yn gyffredinol mae agwedd Mwslimiaid tuag at gymryd cyffuriau yn deillio o’u cred nad hwy eu hunain sy’n berchen ar eu cyrff ond Allah. Felly mae unrhyw sylweddau sy’n achosi niwed i’r meddwl a’r corff yn cael eu hystyried yn haram sef pethau wedi eu gwahardd gan gyfraith Islamaidd. Defnyddir cyffuriau yn aml gan bobl er mwyn osgoi problemau bywyd a dianc i ryw fyd ffantasi lle mae popeth yn dda. Yn anffodus gall profiadau ffantasi fod yn beryglus ac nid yw’r teimlad da maent yn ei brofi yn para. Mae’r pethau hyn yn erbyn ysbryd Islam. Mae bod yn Fwslim yn golygu bod â rheolaeth bob amser ar yr hyn rydych chi'n ei feddwl, ei ddweud a'i wneud. “O chwi sy’n credu! Mae cyffuriau, gemau siawns, aberthu i eilunod a darogan drwy saethau yn ddrygioni atgas o law Satan; felly trowch oddi wrtho yn llwyr er mwyn i chi allu ffynnu" (Corinthiaid 5:90).

Tyfu’r ‘popi opiwm’ yn Afghanistan
Eto i gyd nid yw pethau mor syml â hynny mewn nifer o wledydd Islamaidd. Un ohonynt ydi Afghanistan lle mae ffermwyr wedi dibynnu ers cannoedd o flynyddoedd ar dyfu a gwerthu'r popi opiwm sy’n cael ei ddefnyddio i wneud y cyffur heroin. Ar un adeg roedd mwy na 80% o opiwm y byd yn dod oddi yno ac roedd heroin wedi ei wneud o opiwm Afghanistan yn 95% o’r hyn oedd yn cael ei ddefnyddio yn Ewrop. Yn y gorffennol roedd rheolwyr Mwslimaidd, er yn gyhoeddus yn condemnio tyfu, gwerthu a defnyddio cyffuriau yn troi llygad ddall i’r fasnach gan osod treth ar yr opiwm er mwyn ariannu eu cynlluniau eu hunain. Roedd hyn o fudd i’r llywodraeth a’r ffermwyr. Fodd bynnag yn Ebrill 2022 cyhoeddodd arweinydd goruchaf y Taliban, y grŵp Mwslimaidd sy’n rheoli Afganhistan fod tyfu'r pabi wedi'i wahardd yn gyfan gwbl. Byddai unrhyw un sy'n torri'r gwaharddiad yn cael ei ddinistrio a byddai’r rhai oedd yn gyfrifol yn cael eu cosbi yn unol â chyfraith Sharia. Yn ôl y Taliban roedd hyn oherwydd effeithiau niweidiol opiwm ac oherwydd ei fod yn mynd yn groes i'w credoau crefyddol. Mae’n ymddangos eu bod yn llwyddiannus iawn yn gorfodi’r gwaharddiad a bod cynhyrchu opiwm wedi disgyn 80% yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae ffermwyr yn cael eu gorfodi i blannu gwenith yn ei le sy’n gwneud llawer llai o elw ac o’r herwydd mae nifer ohonynt yn wynebu problemau ariannol. Yn sicr mae agwedd y Taliban yn cyd-fynd â dysgeidiaeth Islam am gyffuriau ond a fyddant hwythau hefyd ymhen amser yn troi llygad ddall er elw ariannol?