En
ARCHIF
Addysg Grefyddol

Digwyddiadau

5 Mai

Ramadan (Islam). Y nawfed mis o’r calendr Islamaidd. Yn ystod y mis hwn bydd Mwslemiaid yn ymprydio am fis.

8 Mai

Shavuot (Iddewiaeth). Gŵyl Iddewig. Y diwrnod rhoddodd Duw y Torah – Pum Llyfr Moses – i’r byd i gyd.

8-9 Mai

Yom Ha’atzmaut (Iddewiaeth). Diwrnod Annibyniaeth Israel.

12-18 Mai

Wythnos Cymorth Cristnogol

30 Mai

Diwrnod Rhyngwladol Plant Sy’n Dioddef Oherwydd Rhyfel

www.warchild.org.uk

31 Mai

Laylat al-Qadr (Islam). . Noson y credir i Allah ddatgelu'r Quran i Fuhammad.

4-5 Mehefin

Eid al-Fitr (Islam). Dynodi diwedd Ramadan.

9 Mehefin

Pentecost. ‘Pen-blwydd’ yr eglwys Gristnogol. Ar ôl derbyn rhodd yr Ysbryd Glan gan Dduw, dechreuodd disgyblion Iesu gyhoeddi’r Efengyl yn Jerwsalem.

16 Mehefin

Merthyrdod Guru Arjan (1606) (Sikhiaeth). Guru Arjan oedd y bumed o’r Deg Guru. Cafodd ei arteithio a’i ladd am amddiffyn egwyddorion ei ffydd.

16 Mehefin

Sul y Tadau.

17-23 Mehefin

Wythnos Ffoaduriaid. Digwyddiad blynyddol sy'n dathlu cyfraniad ffoaduriaid i'r DU ac sy’n annog pobl i gymryd golwg mwy cadarnhaol ar loches.

20 Mehefin

Diwrnod Cenedlaethol Ffoaduriaid. Digwyddiad blynyddol sy'n dathlu cyfraniad ffoaduriaid, ac sy’n annog pobl i gymryd golwg mwy cadarnhaol ar loches.

20 Mehefin

Purim (Iddewiaeth). Coffáu achub y bobl Iddewig o Haman.

21 Mehefin

Hirddydd mis Mehefin yw'r Heuldro'r Haf yn Hemisffer y Gogledd a'r Heuldro'r Gaeaf yn Hemisffer y De..

1-7 Gorffennaf

Eisteddfod Ryngwladol Llangollen. Un o ddigwyddiadau blynyddol mwyaf blaenllaw Cymru – gŵyl wirioneddol ryngwladol o gerddoriaeth, dawns a chân.

10 Gorffennaf

Diwrnod i gofio merthyrdod y Bab (Baha’i).

16 Gorffennaf Asalha Puja (Bwdhaeth).

3-10 Awst Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Sir Conwy.

6 Awst Diwrnod Cofio Bomio Hiroshima..

9 Awst Diwrnod Cofio Bomio Nagasaki..

9–14 Awst Cyfnod yr Hajj (Islam). Pererindod i Makkah. Dyma 5ed piler Islam. Mae’n rhaid i bob Mwslim wneud y Hajj unwaith yn eu bywyd os maent yn medru ei fforddio a bod eu hiechyd yn caniatáu hyn.

10 Awst Tisha B'Av (Iddewiaeth). Diwrnod trist i lawer o bobl Iddewig yn y Deyrnas Unedig. Mae'n eu hatgoffa o'r gormes a thrais a ddioddefwyd ymhlith pobl Iddewig drwy gydol hanes.

11-14 Awst Eid-ul-Adha (Islam). Un o’r ddwy brif ŵyl Islam. Mae’n nodi diwedd yr Hajj (pererindod i Makkah), ac yn cofio parodrwydd Ibrahim I aberthu ei fab Ismail. Mae Mwslimiaid dros y byd yn aberthu anifail ac yn rhannu’r cig gyda’u teulu a’u cyfeillion, a hefyd gyda phobl dlawd.

15 Awst Gŵyl Raksha Bandhan (Hindŵaeth). Gŵyl sy’n dathlu’r berthynas arbennig rhwng brodyr a chwiorydd.

24 Awst Janmashtami (Hindŵaeth). Gŵyl i ddathlu pen-blwydd y duw Krishna.

30-31 Awst Al-Hijra (Islam) – Y flwyddyn newydd Islamaidd. Mae’r diwrnod yn cofio’r Hijra, sef y Proffwyd Muhammad yn mudo o Makkah i Madinah yn 622 OG i sefydlu’r gymuned Fwslimaidd gyntaf. Mae’r calendr Mwslimaidd yn dechrau o’r dyddiad hwn.

2 Medi Ganesh Chaturthi / Vinayaka Chaturthi. Gŵyl Hindŵaidd er anrhydedd i Ganesh / Ganesha, (a elwir hefyd yn Ganapati a Vinayaka).

21 Medi

Diwrnod Heddwch Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig –

www.un.org/en/events/peaceday

29 Medi Rosh Hashanah (Iddewiaeth) – y flwyddyn newydd Iddewig. Mae’r diwrnod yn cofio Duw’n creu’r byd. Mae hefyd yn dechrau deg diwrnod o edifeirwch am gamweddau yn ystod y flwyddyn a aeth heibio..

29 Medi – 8 Hydref Navaratri (Hindŵaeth). Gŵyl y naw noson Nava (naw) Ratri (noson). Mae’n un o brif wyliau Hindŵaeth sy’n para am naw diwrnod, ond yn cael ei dathlu am wahanol resymau mewn gwahanol rannau o’r India – er enghraifft, anrhydeddu’r dduwies Durga; dathlu da yn trechu drwg; gŵyl y cynhaeaf.

Logo Llywodraeth
Logo Cymraeg
Logo Cwmni Cynnal