En
ARCHIF
Addysg Grefyddol

Digwyddiadau

Awst 20 - 24

Eid-al-Adha

Mae llawer o Fwslimiaid yn y Deyrnas Unedig yn dathlu Eid-al-Adha, sy'n coffau parodrwydd Ibrahim (Abraham) i aberthu ei fab i Dduw. Mae'r ŵyl hefyd yn nodi diwedd y bererindod Hajj i Mecca. Mae llawer o Fwslemiaid yn gwneud ymdrech arbennig i wisgo dillad newydd, yn mynychu gwasanaeth gweddïo mewn mosg ac i wrando ar bregeth.

Medi 3 - 9

Wythnos Rhoi Organau

Yn cynnig cyfle i'r gymuned rhoi organau a thrawsblaniad i hyrwyddo rhoi organau yn genedlaethol ac yn lleol, tra'n tynnu sylw at bwysigrwydd rhoi organau a dathlu rhai sydd wedi achub bywydau.

Medi 8

Diwrnod Llythrennedd Cenedlaethol

I ganolbwyntio sylw ar anghenion llythrennedd ledled y byd.

Medi 11 - Hydref 9

Hijra

Blwyddyn Newydd Islamaidd - sef siwrnai Islamaidd y proffwyd Muhammad a'i ddilynwyr o Mecca i Yathrib, ail enwyd yn ddiweddarach ganddo ef i Medina.

Medi 13

Ganesh Charturi

Dethlir Ganesh Chaturthi gydag ymroddiad mawr yn India. Mae pobl yn dod â murtis (delwau) gartref o'r Arglwydd Ganesha a dathlu'r ŵyl drwy addoli'r Arglwydd mewn ffordd arbennig am ddiwrnod a hanner, 3 diwrnod, 5 diwrnod, 7 diwrnod neu 11 diwrnod - yn dibynnu ar y traddodiad teuluol ac ymrwymiad pob unigolyn .

Medi 21

Diwrnod Rhyngwladol Heddwch

Diwrnod o gadoediad byd-eang a di-drais.

Gŵyl Gynhaeaf (Gŵyl Diolchgarwch)

Yr achlysur yn yr hydref pan fydd pobl yn mynd i'r capel neu eglwys i ddiolch i Dduw am fwyd, yn enwedig bwyd sydd wedi cael ei gasglu yn ystod y cynhaeaf.

Hydref 9

Navaratri yn cychwyn

Gŵyl Hindŵaidd sylweddol sy'n cael ei arsylwi am 9 noson a 10 diwrnod. Yn ystod Navratri, mae naw math o Dduwies Durga yn cael ei haddoli.

Hydref 18

Dusshera

Yn ôl y calendr Hindŵaidd, mae'r ŵyl hon yn cael ei dathlu ar y degfed dydd o'r mis Ashwin bob blwyddyn.

Hydref 16

Diwrnod Bwyd y Byd

Mae'r byd yn cynhyrchu digon o fwyd i bawb, ac eto pob 5 eiliad mae plentyn yn marw o newyn neu ddiffyg maeth.

Tachwedd 7

Diwali

Bob blwyddyn mae pobl o bob cymuned yn dathlu'r ŵyl yma i groesawu pelydr newydd o obaith yn eu bywydau, pan gredir i holl rymoedd negyddol gael eu tynnu o'r cartref a bywyd. Cyn Diwali, bydd pobl yn glanhau eu cartref ac yn ei beintio gyda lliwiau deniadol.

Tachwedd 12

Wythnos gwrth fwlio

Annog ysgolion i fynd i'r afael â bwlio a gwneud ysgolion yn amgylcheddau dysgu diogel.

Tachwedd 21

BBC Plant mewn Angen

Rhagfyr 25

Dydd Nadolig

Dathlu diwrnod genedigaeth Iesu Grist.

Rhagfyr 26

Gŵyl San Steffan

Diwrnod ar ôl dydd Nadolig. Yn draddodiadol, roedd yn ddiwrnod pan roedd cyflogwyr yn dosbarthu arian, bwyd, dillad neu nwyddau gwerthfawr i'w gweithwyr. Yn y cyfnod modern, mae'n ddiwrnod pwysig i ddigwyddiadau chwaraeon a dechrau'r gwerthiant ôl-Nadolig.

Logo Llywodraeth
Logo Cymraeg
Logo Cwmni Cynnal