Geirfa Allweddol
Ahimsa - Di-drais.
Amgylcheddol - Yn cyfeirio at y byd naturiol ac effaith gweithgarwch dynol ar ei chyflwr.
Athroniaeth / Athronyddol - Theori neu agwedd sy'n gweithredu fel egwyddor arweiniol ar gyfer ymddygiad.
Bioamrywiaeth - Yr amrywiaeth o fywyd ar y Ddaear ar ei holl lefelau, o enynnau hyd at ecosystemau.
Cadwraeth - Atal defnydd gwastraffus o adnodd.
Cyd-gysylltiad - Y ffaith neu’r cyflwr o fod yn gysylltiedig â'i gilydd
Cyfannol - Yn cyfeirio at neu’n ymwneud â chyfanion neu systemau cyflawn yn hytrach na rhannau unigol.
Cynaliadwy - Wedi'i wneud mewn ffordd sy'n achosi ychydig neu dim difrod i'r amgylchedd felly'n gallu parhau am amser hir.
Diwylliant - y syniadau, arferion a gwerthoedd sy’n perthyn i bobl neu gymuned arbennig.
Eid al-Fitr - yr Ŵyl sy’n dod ag ympryd Ramadan i ben yn y grefydd Islamaidd
Eiriolwr - Sefyll drosrywbeth yr ydych yn ei gredu.
Empathi - Y gallu i synhwyro emosiynau pobl eraill ynghyd â’r gallu i ddychmygu beth y gallai rhywun arall fod yn ei feddwl neu ei deimlo.
Euogfarn - Cred neu farn gadarn.
Fegan - Person sy'n ymatal rhag bwyta cynnyrch anifeiliaid.
Gwasanaeth yr Offeren / Cymun / Swper yr Arglwydd - yr arfer mewn eglwysi a chapel o fwyta bara ac yfed gwin i gofio am groeshoeliad Iesu.
Gŵyl y Pasg - Gŵyl Gristnogol sy’n dathlu atgyfodiad Iesu
Gŵyl y Peshach - Gŵyl Iddewig sy’n dathlu hanes Moses yn achub yr Iddewon o gaethiwed yr Aifft.
Gŵyl y Purim - Gŵyl Iddewig sy’n dathlu hanes y frenhines Esther yn achub yr Iddewon rhag cynllwyn Haman i’w lladd.
Halal - bwyd sy’n cael ei ganiatáu gan reolau Islam.
Hamantaschen - pocedi neu glustiau Haman – y teisennau triongl sy’n cael eu bwyta adeg y Purim
Haram - bwyd sydd ddim yn cael ei ganiatáu gan reolau Islam.
Hunaniaeth - yr hyn sy’n ein gwneud ni'r hyn ydan ni, un ai fel unigolion, cymuned neu genedl.
Kashrut - Term am reolau bwyd yr Iddewon.
Kosher - bwyd sy’n dderbyniol i Iddewon.
Llysieuwr - Person sy'n ymatal rhag bwyta cig.
Meddylgarwch - Cynnal ymwybyddiaeth fesul moment o'n meddyliau, teimladau, synwyriadau corfforol, a'r amgylchedd o'n cwmpas, drwy lens dyner, feithringar.
Medina - un o ddinasoedd mwyaf sanctaidd crefydd Islam – yn Saudi Arabia
Mitzvot - y gorchmynion sydd yn cael eu dilyn gan Iddewon.
Moesegol - Person neu agwedd sy'n cael ei gweld yn gywir yn y synnwyr moesol.
Parev - bwyd niwtral yn ôl rheolau bwyd yr Iddewon.
Pryd y Seder - Y pryd symbolaidd sy’n cael ei fwyta fel rhan o ddathliadau’r Peshach.
Quran - llyfr sanctaidd Islam.
Ramadan - mis sanctaidd yng nghrefydd Islam pryd y bydd Mwslimiaid yn ymprydio.
Rastafari - Crefydd a ddatblygwyd yn Jamaica.
Shechitah - y dull Iddewig o ladd anifail ar gyfer ei fwyta.
Shochet - y person sy’n gymwys i ladd anifail er mwyn iddo fod yn kosher/derbyniol gan Iddewon.
Stiwardiaeth - Dyletswydd i ofalu am y byd.
Sunnah - arferion a thraddodiadau Islam sy’n dod o eiriau a hanes y proffwyd Muhammmad.
Torah - pum llyfr cyfraith yr Iddewon.
Trefah - bwyd sydd yn annerbyniol gan Iddewon.
Trugaredd - Adnabod dioddefaint eraill ac yn gweithredu i helpu.
Veganuary - Troi'n Fegan am fis Ionawr.
Ysbrydol - Yn ymwneud â chrefydd neu'r gred grefyddol neu'n ymwneud neu'n effeithio'r enaid dynol neu ysbryd yn hytrach na phethau materol neu gorfforol.