En
ARCHIF
Addysg Grefyddol

Digwyddiadau

5 Ionawr

Mae Gŵyl Ystwyll yn ddiwrnod Cristnogol a ddathlir ar y dyddiad yma bob blwyddyn. Gelwir y diwrnod hefyd yn Ddiwrnod y Tri Brenin i'n helpu i gofio'r tri dyn doeth a ymwelodd ag Iesu fel babi.

– https://en.wikipedia.org/wiki/Epiphany_(holiday)

14 Ionawr

Mae Makar Sankranti yn cael ei ddathlu ar neu yn agos i’r dyddiad yma bob blwyddyn. Mae Hindŵiaid yn dathlu'r amser hwn fel gŵyl gynhaeaf.

– https://en.wikipedia.org/wiki/Makar_Sankranti

17 Ionawr

Diwrnod Crefydd y Byd - Nod Diwrnod Crefydd y Byd yw meithrin sefydlu dealltwriaeth rhyng-grefyddol a harmoni trwy bwysleisio'r agweddau cyffredin sy'n sail i bob crefydd.

– https://www.timeanddate.com/holidays/world/world-religion-day

18 Ionawr

Mae Diwrnod Martin Luther King yn disgyn ar y trydydd dydd Llun ym mis Ionawr bob blwyddyn. Mae'r diwrnod yn dathlu rôl Martin Luther King mewn hawliau sifil a chydraddoldeb hiliol.

– https://www.officeholidays.com/countries/usa/mlk.php

25 Ionawr

Dyma ddiwrnod Santes Dwynwen, pan fyddwn yn anrhydeddu nawdd sant cariadon Cymru.

– https://en.wikipedia.org/wiki/Dydd_Santes_Dwynwen

27 Ionawr

Arsylwir Tu B'Shevat ar y 15fed diwrnod o fis Shevat ar y calendr Hebraeg. Mae'r diwrnod yn ymwneud â phlannu coed ac i wneud y tir yn iach ac yn fwy bywiog, tebyg i ddiwrnod Arbor.

– https://en.wikipedia.org/wiki/Tu_BiShvat

27 Ionawr

Diwrnod Cofio’r Holocost - Mae’n ddiwrnod i gofio’r holl gategorïau o bobl a ddioddefodd erledigaeth gan y Natsïaid yn ystod yr ail ryfel byd, ynghyd ag achosion o hil-laddiad mewn rhannau gwahanol o’r byd ers hynny. Y nod yw ceisio sicrhau nad yw erchyllterau o’r fath yn digwydd eto.

12 Chwefror

Blwyddyn Newydd Tsieineaidd - mae cymunedau Tsieineaidd ar draws y Deyrnas Unedig (DU) yn dathlu Blwyddyn Newydd Tsieineaidd, a elwir hefyd yn ŵyl y Gwanwyn neu Flwyddyn Newydd Lloerol.

– https://en.wikipedia.org/wiki/Chinese_New_Year

16 Chwefror

Dydd Mawrth Ynyd, a elwir hefyd yn ddydd Mawrth crempog, Mawrth ‘braster’ a ‘Mardi Gras’ (sef Ffrangeg ar gyfer Mawrth ‘braster’) yw'r diwrnod olaf o wledda cyn dydd Mercher lludw.

21 Chwefror

Mae Diwrnod Mamiaith Ryngwladol yn arsylwad blynyddol ledled y byd i hyrwyddo ymwybyddiaeth o amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol, a hefyd hyrwyddo amlieithrwydd.


1 Mawrth Mae pobl yng Nghymru a chymunedau Cymraeg o gwmpas y byd yn dathlu bywyd eu nawdd sant, Dewi Sant, a diwylliant eu gwlad ar Ddydd Gŵyl Dewi.

6 Mawrth

Mae Dydd Mercher Lludw bob amser yn cael ei ddathlu saith wythnos cyn Sul y Pasg a'r Diwrnod ar ôl ‘Mardi Gras’. Ar gyfer Cristnogion, mae'r diwrnod yn nodi diwrnod cyntaf Grawys a dechrau 6 wythnos o ymprydio a phenydio.


Mae Grawys yn dechrau ar ddydd Mercher lludw bob blwyddyn ac mae Cristnogion yn dechrau cyfnod ymprydio 40 diwrnod. Mae'r diwrnod yn cynrychioli'r 40 diwrnod y treuliodd Iesu Grist yn yr anialwch.

– https://cy.wikipedia.org/wiki/Mercher_y_Lludw

11 Mawrth

Isra a Mi'raj yw'r 27ain diwrnod Rajab ar y calendr Islamaidd. Mae'r diwrnod yn coffáu taith y Proffwyd Muhammad o Mecca i Jerwsalem a'i esgyniad i'r nefoedd.

12 Mawrth

Diwrnod Mathemateg. Dysgwyr yn cysylltu dros y we i ddathlu rhifau - gyda’r nod o godi safonau rhifedd.

9 Mawrth

Cynhelir Sul y Mamau, a elwir weithiau fel Diwrnod y Mamau, ar bedwerydd Sul Grawys. Mae'n union dair wythnos cyn dydd Sul y Pasg ac fel rheol yn syrthio yn ail hanner Mawrth neu ddechrau mis Ebrill. Erbyn hyn mae'n ddiwrnod i anrhydeddu mamau, neiniau a mamau yng nghyfraith.

2 Ebrill

Dydd Gwener y Groglith yw chweched diwrnod yr Wythnos Sanctaidd i Gristnogion ac mae'n disgyn dau ddiwrnod cyn Sul y Pasg bob blwyddyn. Mae'r diwrnod yn coffáu croeshoeliad Iesu Grist.

4 Ebrill

Mae'r Pasg yn disgyn ddydd Sul ar ôl y lleuad lawn, ar ôl 21ain o Fawrth ar gyfer Cristnogion, felly bydd yn disgyn rhwng Mawrth 22ain a 25 Ebrill bob blwyddyn. Mae'r diwrnod yn dathlu atgyfodiad Iesu Grist.

5 Ebrill

Dydd Llun y Pasg yn dilyn Sul y Pasg bob blwyddyn, sy'n amrywio yn ôl y lleuad llawn cyntaf ar ôl Mawrth 21. Mae'r diwrnod hwn yn estyniad ychwanegol o Ddydd Sul y Pasg i ddathlu atgyfodiad Iesu Grist.

22 Ebrill

Mae diwrnod y ddaear yn cael ei ddathlu ar y diwrnod yma bob blwyddyn. Mae'r diwrnod yn codi ymwybyddiaeth o ddiogelwch amgylcheddol ein planed.

Logo Llywodraeth
Logo Cymraeg
Logo Cwmni Cynnal