En
ARCHIF
Addysg Grefyddol

Digwyddiadau

Medi 21

Diwrnod Rhyngwladol Heddwch
Diwrnod o gadoediad byd-eang a di-drais.


Gŵyl Gynhaeaf (Gŵyl Diolchgarwch)
Yr achlysur yn yr hydref pan fydd pobl yn mynd i'r capel neu eglwys i ddiolch i Dduw am fwyd, yn enwedig bwyd sydd wedi cael ei gasglu yn ystod y cynhaeaf.


Hydref 17

Navaratri yn cychwyn
Gŵyl Hindŵaidd sylweddol sy'n cael ei arsylwi am 9 noson a 10 diwrnod. Yn ystod Navratri, mae naw math o Dduwies Durga yn cael ei haddoli.


Hydref 25

Dusshera
Yn ôl y calendr Hindŵaidd, mae'r ŵyl hon yn cael ei dathlu ar y degfed dydd o'r mis Ashwin bob blwyddyn.


Hydref 16

Diwrnod Bwyd y Byd
Mae'r byd yn cynhyrchu digon o fwyd i bawb, ac eto pob 5 eiliad mae plentyn yn marw o newyn neu ddiffyg maeth.


Tachwedd 14

Diwali
Bob blwyddyn mae pobl o bob cymuned yn dathlu'r ŵyl yma i groesawu pelydr newydd o obaith yn eu bywydau, pan gredir i holl rymoedd negyddol gael eu tynnu o'r cartref a bywyd. Cyn Diwali, bydd pobl yn glanhau eu cartref ac yn ei beintio gyda lliwiau deniadol.


Tachwedd 16-20

Wythnos gwrth-fwlio
Annog ysgolion i fynd i'r afael â bwlio a gwneud ysgolion yn amgylcheddau dysgu diogel.


Tachwedd 13

BBC Plant mewn Angen


Rhagfyr 25

Dydd Nadolig
Dathlu diwrnod genedigaeth Iesu Grist.


Rhagfyr 26

Gŵyl San Steffan
Diwrnod ar ôl dydd Nadolig. Yn draddodiadol, roedd yn ddiwrnod pan roedd cyflogwyr yn dosbarthu arian, bwyd, dillad neu nwyddau gwerthfawr i'w gweithwyr. Yn y cyfnod modern, mae'n ddiwrnod pwysig i ddigwyddiadau chwaraeon a dechrau'r gwerthiant ôl-Nadolig.

Logo Llywodraeth
Logo Cymraeg
Logo Cwmni Cynnal