En
ARCHIF
Addysg Grefyddol

Gwybodaeth - E-gylchgrawn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg

E-gylchgrawn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg - cylchgrawn tymhorol yn dechrau ym mis Hydref 2016



Croeso i'r degfed rhifyn o'r e-gylchgrawn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg i ddysgwyr 11-14 oed, gyda'r thema Crefydd a Chwaraeon.


Bwriad yr e-gylchgrawn tymhorol yma fydd i hybu sgiliau a dealltwriaeth o fewn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg o fewn y Maes Dysgu a Phrofiad Y Dyniaethau gan osod crefydd mewn cyd-destun eang a pherthnasol. Bydd yr erthyglau hyn yn drawsgwricwlaidd ac yn cynnig symbyliad i drafodaeth ehangach yn y dosbarth.

Nod hefyd yw annog dysgwyr i gael eu hysbrydoli, eu cyffroi a'u herio ac yn eu cymhwyso i fyw bywyd adeiladol yn y byd cyfoes.


- Bydd y deunyddiau yn dangos sut y mae credoau a dysgeidiaethau yn dylanwadu ar fywydau pobl o fewn cymunedau yng Nghymru ac yn fyd-eang.

- Bydd y deunyddiau yn defnyddio'r 'dimensiwn Cymreig' fel y man cychwyn yn hytrach na chyfieithu neu addasu'r safbwynt Seisnig/Saesneg.

- Bydd y deunyddiau yn datblygu dysgwyr ymchwilgar ac annibynnol, meithrin dysgwyr uchelgeisiol a galluog sy'n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes.

- Bydd y deunyddiau yn datblygu amrediad eang o sgiliau darllen ac yn seiliedig ar y fath o sgiliau mae'r profion PISA yn profi.

Fel y gwelwch oddi fewn i'r e-gylchgrawn bydd:


- o leiaf 3 erthygl (gyda delweddau i gyd fynd â'r cynnwys) ynglŷn â themâu penodol bob tymor - gall y rhain gyd fynd a themâu cenedlaethol/rhyngwladol neu'n adlewyrchu materion cyfoes ynglŷn â chrefydd;

- y 3 erthygl wedi eu gwahaniaethu fel eu bod yn addas i ddarllenwyr o bob gallu ac yn cynnwys gweithgareddau a manylion tasgau estynedig priodol (o fewn y canllawiau athrawon);

- termiadur/geirfa allweddol lle bydd posib i ddysgwyr ddarganfod ystyr termau penodol;

- bydd modd clicio / hofran dros eiriau allweddol o fewn erthyglau er mwyn cael diffiniad syml ohono;

- canllaw athro yn amlygu gweithgareddau yn gysylltiedig â phob erthygl yn cynnig rhestr o dasgau ar ffurf Word/PDF fydd yn adlewyrchu pedwar diben y cwricwlwm newydd ynghyd â’r disgrifiadau dysgu a chamau cynnydd ar gyfer y Maes Dysgu a Phrofiad Y Dyniaethau;

- cysylltiadau i gredoau ac arferion (linciau i dudalennau gwe allanol) er mwyn sicrhau bod y darllenwyr yn derbyn gwybodaeth gywir, gyfoes a diduedd am gredoau, dysgeidiaethau ac arferion crefyddol;

- gweithgareddau munud i feddwl a 'podlediadau' eraill gyda manylion tasgau estynedig ar gyfer dysgwyr;

- calendr o ddathliadau/dyddiadau crefyddol.



Mae modd llywio i'r erthyglau (sydd ar ffurf Word / PDF) o'r tudalen blaen. Yma hefyd bydd blwch chwilio ble all y defnyddiwr ganfod erthyglau o ôl-rifynnau.




Rhifyn 10


Awduron: Huw Dylan, Noel Dyer, Catrin Roberts.


Golygu: Bethan James


Diolchiadau/cydnabyddiaeth: Christians in Sport, John Roberts (BBC Radio Cymru - Rhaglen Bwrw Golwg), Lloyd Thomas, Joseff Edwards, Apostolic - Church Penygroes, Aaron Singh, World Rugby Museum - Twickenham.


Cynhyrchwyd gan: Cwmni Cynnal, Penrallt, Caernarfon.


Delwedd a Ffotograffiaeth:
BBC Cymru Fyw, , Ingimage, Shutterstock, Wikipedia, GIG Cymru, Owain Roberts- Dylunio, Mike Jones - Rhaglenni.



Logo Llywodraeth
Logo Cymraeg
Logo Cwmni Cynnal