Dechrau mis Ebrill cyflwynwyd treth newydd ar gwmnïau sydd yn cynhyrchu diodydd meddal. Gan bod llawer o blant a phobl dros eu pwysau, ac yn cael problemau iechyd oherwydd hynny, mae'r dreth newydd hon yn ceisio gorfodi cwmnïau i roi llai o siwgr mewn diodydd meddal. Bydd y cwmnïau diodydd yn cael eu gorfodi i dalu pres i'r llywodraeth am ddefnyddio siwgr mewn diodydd. Mae
nifer o wledydd eraill wedi gwneud hyn yn barod gan gynnwys Ffrainc, Ffindir a Mecsico
Yn ôl cefnogwyr y dreth newydd, ni fydd yn
anodd i wneuthurwyr diodydd meddal addasu'r ryseitiau, fel bod llai o siwgr ynddynt. Mae cymaint â 9 llond llwy de, neu 30g, o siwgr mewn
rhai caniau 330ml. Mae arbenigwyr iechyd yn rhybuddio fod gormod o siwgr yn gwneud drwg i'n hiechyd, ac felly yn cefnogi'r dreth newydd.
5 ciwb(19 gram)
6 ciwb(24 gram)
7 ciwb(34 gram)
Mae ffrae wedi codi dros roi enw newydd ar yr ail bont dros yr afon Hafren yn ne Cymru. Mae'r bont yn cysylltu Cymru a Lloegr ac yn cludo cerbydau sy'n teithio ar ffordd yr M4.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru, y dylai'r bont gael ei henwi yn Pont Tywysog Cymru, er anrhydedd i'r Tywysog Charles. Ond mae nifer fawr o bobl yn anghytuno,
ac mae dros 30,000 o bobl wedi arwyddo deiseb i wrthwynebu'r enw newydd. Mae'r ffrae wedi codi gan bod rhai pobl yn credu mai gwir Dywysog Cymru olaf
Cymru oedd Llywelyn ein Llyw Olaf, nid y Twysog Charles sy'n aelod o deulu Brenhinol Lloegr."
Bu pobl Ynys Môn yn brysur yn clirio'r difrod gafodd ei achosi gan Storm Emma ym mis Mawrth. Cafodd rhannau o Farina Caergybi ei falu, suddodd llawer o gychod a chafodd darnau o bolystyren ei wasgaru yn y môr. Mae’r darnau polystyren wedi llygru milltiroedd o arfordir Ynys Môn ac yn cael ei olchi i fyny ar y traethau. Nid yw hyn yn newyddion da i fywyd gwyllt na thwristiaeth yr ardal!
Ond erbyn hyn mae adroddiadau fod y polystyren wedi croesi'r môr hefyd, ac wedi ei ganfod yn Bray, Iwerddon
Mae rhai o bobl Caergybi yn dweud na chawson nhw help yn ddigon buan i glirio'r difrod. Ond mae cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru yn dweud fod y glanhau wedi dechrau yn syth wedi'r storm.
Math o blastig sydd yn ysgafn ac yn arnofio. Yn y môr mae’n torri yn ddarnau mân sydd yn cael eu cario gan y llanw. Nid yw polystyrene yn pydru!
1
Dyma’r gemau mwyaf llwyddiannus i Gymru erioed, er iddynt hefyd ennill 36 o fedalau yn Glasgow bedair mlynedd yn ôl, y tro hwn roedd mwy o fedalau aur i Gymru - edrychwn ymlaen felly am fwy o lwyddiant i athletwyr Cymru yn y dyfodol
Mae manylion am athletwyr Cymru i'w canfod yma:
Daw'r enw Ebrill o'r gair Lladin Aprilis. Gall fod cysylltiad gyda'r ferf Lladin aperire, sy'n golygu 'i agor'. Efallai bod yr enw yn cyfeirio at y dail yn agor ym mis Ebrill, ond does dim sicrwydd o hynny.
Ar Ebrill 2, 1805 ganwyd Hans Christian Andersen yn Odense, Denmarc. Mae ei straeon yn adnabyddus iawn ac mae plant ym mhedwar ban byd wedi mwynhau darllen straeon fel Yr Hwyaden Fach Hyll a Merch Fach y Matshys mewn nifer o wahanol ieithoedd.
Cerdd Casia Wiliam ar dudalen 4.
Beth am greu gardd fach fel ar dudalen 3.
Mwy am Adar Cymru ar dudalen 6.
Cyngor Anti Dot ar dudalen 5.
Ganwyd Syr David Attenborough ar Fai 8, 1926. Mae'n enwog am fod yn arbenigwr ar blanhigion ac anifeiliaid ac am gyflwyno rhaglenni teledu am fyd antur. Mae nifer o rywogaethau newydd wedi eu henwi ar ei ôl fel anrhydedd iddo. Mae planhigyn o deulu'r heboglys, sydd dim ond i'w weld ar Fannau Brycheiniog wedi ei enwi ar ôl Attenborough, enw'r planhigyn yw Hieracium attenboroughianum!
2
Pan gyrhaeddodd Caio yn ôl i’r tŷ, roedd pob man yn daclus a glân. Ond rhywsut doedd hynny’n ddim cysur iddo. Doedd pethau’n sicr ddim yn daclus yn ei ben, meddyliodd Caio. Daeth arogl pizza o’r gegin, ond doedd Caio ddim yn llwglyd, rhuthrodd i fyny i’w lofft a chau’r drws yn dynn ar ei ôl. Doedd o ddim eisiau gweld ei Dad, a doedd o ddim am orfod eistedd wrth y bwrdd yn bwyta pizza a siarad am ddim byd o bwys.
Gorweddodd ar ei wely, a chau ei lygaid.
'Wimp ydi o, neith o ddim byd, gei di weld,' roedd Jaco wedi rhoi gwthiad iddo fo wrth ei basio yn y drws, 'ma’ ganddo fo ofn ei
gysgod.'
Roedd llais Jaco, a chwerthin y lleill yn mynnu dod yn ôl eto i’w ben. Pam eu bod nhw’n ei ddewis o bob tro? Pan ddaeth gyntaf i Ysgol y Fron roedd wedi gwneud ei orau i ffitio i mewn, neu os nad oedd hynny'n bosib roedd o wedi trio gwneud ei hun yn anweledig, fel nad oedd o’n tynnu sylw o gwbl ato ei hun.
Rhywsut roedd yr athro wedi clywed
fod Caio yn cael llwyddiant fel dringwr, a’i fod ef a’i dad yn mynd pob penwythnos i ddringo creigiau heriol Eryri.
'Dyma i chi be’ dwi’n alw’n anturiaethwr dewr!' meddai Mr Wills, gan alw ar Caio i ddod i flaen y dosbarth.
Roedd wedi teimlo ei fochau’n llosgi, a phan glywodd Jaco a’r lleill yn piffian chwerthin i’w dwylo. Roedd o am i’r llawr ei lyncu.
'Grêt - jyst be’ oedden ni angen 'de lads - ant, antu- rwbath. Reit Ant, mi gei di'n helpu ni felly..' Roedd y tri wedi ei gornelu ar ei ffordd adre, ac roedd Jaco wedi cael gafael ar fag Caio, efo'r holl lyfrau newydd ynddo, ac roedd wrthi’n ei hongian dros ymyl y bont dros y gyffordd. 'Wyt ti isho dy fag yn ôl Ant?'
Chwarddodd y ddau arall
'Gei di o yn ôl, ond rhaid i ti wneud rhywbeth i ni gynta’.'
Beth wyt ti'n meddwl sydd am ddigwydd i Caio? Anfon air i ddweud dy syniad at cliciadur@cynnal.co.uk
Gan fod ‘Wythnos Garddio Cenedlaethol’ ar y 30ain o Ebrill, beth am fynd ati i blannu hadau er mwyn cael arddangosfa o flodau lliwgar ar gyfer yr Haf?
Rwan yw'r amser delfryol i blannu hadau, ond cofiwch ddarllen cefn y pecyn hadau yn ofalus i wybod os yw'r hadau angen eu plannu y tu fewn neu y tu allan. Dydi rhai
hadau ddim yn hoff o dywydd oer felly rhaid bod yn ofalus!
Gyda chymaint o wastraff plastig yn achosi problemau ar dir a môr mae ail-gylchu ac ail-ddefnyddio poteli plastig i blannu hadau yn syniad sy’n gwneud synnwyr! Gelli di ddefnyddio unrhyw fath o botel, dim ond gwneud yn siŵr fod digon o le i’r planhigyn dyfu a’i fod yn
bosib gwneud tyllau yn y gwaelod ar gyfer dyfrio.
***Mae’r Cliciadur wedi plannu hadau ‘Nasturtium’ gan eu bod yn hawdd i’w tyfu mewn unrhyw safle ac unrhyw fath o bridd. Mae nhw’n cynhyrchu blodau melyn ac oren fydd yn tyfu i lawr ochr y botel yn ddeniadol.
Mae’r Cliciadur wedi dewis hen botel ddŵr. Mae’n syniad marcio petryal neu sgwâr ar ei hochr er mwyn gwybod ble i dorri y twll. Bydd angen i’r twll fod o leiaf 5cm er mwyn i’r hedyn gael digon o le i dyfu
Mae angen defnyddio rhywbeth miniog i wneud twll yng nghefn y botel ar gyfer y llinyn sy’n mynd i’w ddal i fyny. Mae angen gwneud 2 neu 3 twll arall yng ngwaelod y botel er mwyn i’r dŵr allu dod allan ar ôl dyfrio
defnyddia siswrn neu gyllell i dorri y sgwâr neu ‘r petryal, gan ddilyn y llinellau oedd wedi eu marcio.
Y cam nesaf yw rhoi darn o linyn drwy’r twll yn y cefn ac allan o wddw y botel, gan roi caead y botel yn ôl yn ei le wedyn. Oddi ar hwn fydd y botel yn hongian. Bydd angen llenwi'r botel gyda phridd wedyn.
Rwyt yn barod i blannu rwan! Dilyn y cyfarwyddiadau sydd ar gefn y pecyn hadau i wybod pa mor ddyfn sydd angen ei blannu.
Y cam olaf yw dyfrio’r pridd. Paid a boddi’r hedyn cofia! Mae angen dyfrio’r planhigyn yn rheolaidd wrth iddo dyfu hefyd.
3
Mae Banksy yn artist graffiti dienw. Does neb yn gwybod yn iawn pwy ydy Banksy oherwydd nid yw’n cyhoeddi ei enw nac yn gwerthu copïau o’i waith. Mae ei weithiau celf yn ymddangos ar waliau a lleoliadau dros y byd i gyd, yn
gyfrinachol ac yn aml yn ystod y nos. Trwy ddefnyddio paent chwistrell a stensil gall Banksy greu lluniau yn sydyn ac yn ddirgel. Drwy ei luniau mae Banksy yn mynegi ei farn am yr hyn sy’n mynd ymlaen yn y byd
Artist graffiti sy’n byw ac yn gweithio yng ngogledd Cymru yw Andy. Efallai fod rhai ohonoch yn gyfarwydd â’i waith gan fod Andy wedi creu llawer o
furluniau trawiadol ar gyfer ysgolion ac adeiladau cyhoeddus. Rhaid pwysleisio fod Andy yn sicrhau caniatâd cyn peintio ei furluniau ar waliau!
Dyma ddywediad yr ysgol ‘Da yw ein hiaith, cadwn hi’ sy’n dangos ein bod yn falch o fod yn Gymro neu’n Gymraes.
Rydym wedi dewis lliwiau llachar er mwyn iddo sefyll allan.
Ar Ebrill 22ain, mae hi'n Ddiwrnod y Ddaear. Dyma gerdd gan Fardd Plant Cymru, Casia Wiliam sy'n sôn am yr angen i ofalu am ein daear. Bydd llawer o weithgareddau yn digwydd ar y diwrnod hwnnw. Beth fedri di wneud i ofalu am y ddaear tybed?
4
Gyda'r Gwanwyn ar ddod a'r tywydd yn gwella mae llawer o blant yn beicio i'r ysgol. Mae hynny'n newyddion da iawn, ond wrth gwrs mae'n rhaid bod yn ofalus. Dyma rai tips gan Anti Dot -
Rhowch y rhifau yn y grid fel bo pob rhes a cholofn yn adio i wneud 6.
Rhowch y rhifau yn y grid fel bo pob rhes a cholofn yn adio i wneud 10.
Diolch i Gareth Ffowc Roberts am y pos yma.
5
Yn sicr mae Cymru fel cenedl yn fyd enwog am ganu. O Tom Jones i Fryn Terfel does dim prinder cantorion na chorau yn ein gwlad fechan ni! Ond ymhob cwr o Gymru, o fis Mawrth i fis Gorffennaf, mae un côr arbennig yn barod i’n swyno a’i nodau persain! Rhain yw’r côr o adar sy’n canu ar
doriad y wawr, dyma gôr y wîg. Wrth i ni ddechrau gwrando ar gôr y wîg mae’n ymddangos fod pob aderyn yn cystadlu am y gorau ac yn canu ar draws ei gilydd. Ond gyda ychydig bach o wybodaeth ac ymarfer gallwn adnabod un llais oddi wrth y llall, a gwahaniaethu rhwng y sopranos a’r baswyr!
Act 1 - Y Robin a Llwyd y Gwrych: Mae angen codi’n gynnar i glywed y rhain, tua awr cyn toriad gwawr mae nhw’n canu.
Act 2 – Y Fronfraith a’r Aderyn Du: Yn dynn ar eu sodlau daw y ddau yma, mae’n debyg am
fod y ddaear yn wlyb ac mae digon o bryfaid genwair (mwydod)!
Act 3 – Teulu y Titw, y Teloriaid a’r Dryw: Rhain sydd yn cyrraedd nesaf, wedyn mae cri ysgafn y Dryw Eurben yn ymuno â nhw. Pryfaid yw bwyd y rhain.
Yn ôl Eleri Wynne, Swyddog Cyfathrebu RSPB Cymru:
“Pan yn gwrando ar gôr y wîg i ddechrau gall swnio fel fod pawb yn canu ar draws ei gilydd. Dim ond i ni wrando yn ofalus gallwn adnabod lleisiau adar gwahanol. Mae hwn yn gyngerdd gwych.
sy’n digwydd bob dydd yn rhad ac am ddim!”
Pam fod yr adar yn canu mor gynnar yn y bore felly? Mae’n debyg mae hwn yw’r adeg gorau i ddenu orn felly roedd angen cymar, felly dangos eu hunain i gael cariad y mae’r adar! Gall eu cân gario hyd at 20 milltir!
Cantorion - rhywun sydd yn canu
Persain - sŵn hyfryd
Côr y wîg - yn Saesneg ‘Dawn Chorus’
Sopranos - rhywun sydd yn canu nodau uchel.
Baswyr - rhywun sydd yn canu nodau isel.
Cymar - partner neu gariad
Am fwy o wybodaeth ewch ar wefan www.rspb.org/cymru Beth am gwblhau y croesair adar ar dudalen 5?
Tybed gefaist ti eira mawr yn dy ardal di ddechrau Mawrth?
Efallai bod dy ysgol wedi gorfod cau ac fe gês ti amser i sledio a chwarae yn yr eira? Mae’n sicr fod yr eira a’r tywydd oer wedi golygu digon o hwyl a sbri i lawer o blant, ond i eraill roedd yn golygu llawer o waith ychwanegol a chryn broblemau! Dyma hanes Anest, sydd yn 8 oed ac yn byw ar fferm yn Nyffryn Clwyd.
Cawsom lawer iawn o eira yn ein hardal ni ac roedd Ysgol Pentrecelyn wedi gorfod cau am dri diwrnod. Mae ein fferm ni ar dir uchel ac roedd yn amhosib cael unrhyw gerbyd allan o’r buarth am sawl diwrnod. Mae gennym ni wartheg a defaid acw, a’r broblem fwyaf yn ystod y tywydd mawr oedd cael bwyd a dŵr atyn nhw yn y siediau a’r
caeau. Fel y gwelwch yn y llun, roedd y tapiau dŵr wedi rhewi yn gorn felly roedd angen dadmer a chario dŵr at yr anifeiliaid. Roedd gormod o eira ar y caeau ac felly roedd yn amhosib defnyddio'r Land Rover na’r Beic Modur i gario bwyd i’r defaid, felly doedd dim amdani ond cario'r bwyd ein hunain drwy’r eira. Roedd yn anodd cerdded yn y orn felly roedd angen lluwchfeydd ac roedd rhai o’r gatiau yn amhosib i’w hagor ble roedd yr eira wedi lluwchio. Aeth un o’r orn felly roedd angen hyrddod yn sownd mewn orn felly roedd angen lluwch ac roedd Mam yn yr eira at ei chanol yn trio ei gael allan.
Fe wnes i fwynhau cael diwrnodiau i ffwrdd o’r ysgol ond roedd yr eira a’r rhew wedi golygu llawer o waith anodd i ni ffermwyr. Roedd yn beth da nad oedden ni wedi dechrau ŵyna eto neu byddai wedi achosi mwy fyth o broblemau!
Wyt ti'n adnabod rhywun sy'n seren? Anfona air atom i cliciadur@cynnal.co.uk
dadmer - pan mae eira neu rew yn toddi neu’n meirioli yn ôl yn ddŵr
lluwchfeydd / lluwchio / lluwch - pan mae eira yn chwythu yn bentwr - ‘snow drift’
hyrddod - mwy nag un ‘hwrdd’, sef gwryw dafad.
wyna - yr adeg o’r flwyddyn pryd y bydd defaid yn cael ŵyn bach.
6
Pam fod y ddegawd yn cael ei chyfrif yn un a newidiodd lawer ar y byd (Chwyldradol)? Roedd pobl yn dechrau dod dros galedi cyfnod y rhyfel, ac am gael bywyd mwy difyr, lliwgar a chyffrous.
Dyma gyfnod y sgertiau mini, sgertiau cwta iawn! Roedd dwy Gymraes yn flaenllaw ym myd ffasiwn y cyfnod sef - Mary Quant, a Laura Ashley. Dyma hefyd gyfnod y Mods, Rocers a'r Hipis.
Roedd yn gyfnod gwych i gerddoriaeth, gyda bandiau poblogaidd fel y Beatles yn creu cyffro enfawr wrth ganu, ac yn gwneud i ferched sgrechian a llewygu!
Yng Nghymru roedd grwpiau fel Bara Menyn, Y Blew a Tebot Piws yn canu am y frwydr dros yr iaith Gymraeg, a'i hawliau. Un oedd yn amlwg iawn yn y cyfnod oedd y canwr a'r protestiwr, Dafydd Iwan.
Tebot Piws
Yn Hydref 1966, llithrodd tomen lo dros bentref Aberfan a chladdu'r ysgol gynradd. Lladdwyd 116 o blant a 28 oedolyn. Roedd yn drychineb erchyll a gafodd effaith fawr ar bobl trwy Gymru a thu hwnt.
LLAIS ABERFAN
LLAIS ABERFAN
LLAIS ABERFAN
Hydref 24, 1966
Ymweliad Pwysig
Ddoe daeth Cadeirydd y Bwrdd Glo i ymweld â phentref Aberfan. Cydymdeimlodd yr Arglwydd Robens gyda'r teuluoedd a'r trigolion. Ond pwysleisiodd mai damwain ofnadwy oedd y digwyddiad, ac nad oedd unrhyw fai ar y Bwrdd Glo.
Ond wrth gwrs fe wyddom ni yn wahanol yma yn Aberfan. Sawl gwaith y bu'r pentrefwyr a glowyr yr ardal yn rhybuddio'r Bwrdd Glo nad oedd y tomeni'n ddiogel? Meddai Tomi Jones, glöwr lleol - 'Wedon ni fod nentydd yn llifo o dan y tomennydd hyn a bod peryg i'r cwbl lithro i lawr y mynydd, ond roedden nhw'n pallu gwrando - mae'n warthus.
Erbyn hyn wrth gwrs, mae'n rhy hwyr, dim ond gobeithio y daw'r gwirionedd i'r wyneb gyda chlirio'r holl lanast
Ond yn bwysicaf heddiw wrth gwrs yw dangos gofal a chydymdeimlad gyda'r teuluoedd druan gafodd eu heffeithio gan y trychineb hwn.
Gohebydd Aberfan.
Yng Nghymru roedd pobl yn flin nad oedd arwyddion ffyrdd Cymraeg, ac weithiau roeddent yn eu tynnnu i lawr, neu yn peintio drostynt. Roedd llawer o brotestio hefyd yn erbyn arwisgo'r Tywysog Charles yng Nghastell Caernarfon yn 1969.
Yn Unol Daleithiau America, roedd Martin Luther King yn dod yn enwog am brotestio dros hawliau bobl dduon. Ond yn 1967 cafodd ei saethu'n farw, ergyd drom i'r ymgyrch hawliau sifil.
1962 | Sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. |
1965 | Boddi Cwm Celyn, boddi pentref i gael dŵr i Lerpwl |
1966 | Trychineb Aberfan, |
1967 | Deddf yr Iaith Gymraeg yn cael ei phasio, oedd yn rhoi mwy o hawliau i siaradwyr Cymraeg. |
1961 | Yuri Gagarin o Rwsia oedd y dyn cyntaf yn y gofod. |
1963 | John F. Kennedy, Arlywydd UDA, yn cael ei saethu'n farw. |
1964 | Nelson Mandela yn cael ei garcharu ar Robben Island, De Affrica. |
1969 | Neil Armstrong a Buzz Aldrin yn glanio ar y lleuad. |
7
Diolch i Caio am ein perswadio i ymweld â Llanbêr!
Llanberis
Y golygfeydd, mae'n bosibl gweld milltiroedd i ffwrdd ym mhob cyfeiriad, mae'r golygfeydd o gopaon Eryri yn drawiadol ac unigryw. Cerddom i gopa Moel Eilio gydag Ysgol Dolbadarn, ac rwy'n gobeithio cerdded i dop yr Wyddfa yn fuan iawn.
Mae Llyn Padarn yn lle perffaith ar gyfer nofio, canŵio, ymlacio, chwarae gyda ffrindiau a phob math o weithgareddau hwyliog. Mae’n bosib llogi canŵ i deithio ar draws ein llyn gwych. Buaswn yn argymell Llyn Padarn ar gyfer diwrnod allan i’r teulu mewn chwinciad chwannen.
Dyma ardal y chwareli, a buaswn
yn argymell yr Amgueddfa Lechi,
mae digon o wybodaeth
hanesyddol yn cael ei arddangos,
ac mae’r arteffactau oedrannus yn
denu eich sylw. Gall plant gael hwyl
a sbri yn y parc, ac yn y cyfamser
gallech lenwi eich bol gyda bwyd
Cymreig blasus.
Eisiau atgof o'ch amser yn
Llanberis? Eisiau tegan? Mae
llwyth o ddewisiadau yn y siop
cofroddion hefyd.
Tybed a welais ti y Gymraes hon o Gasnewydd yn hyrddio i lawr y rhew ar gefn bobsled yn ystod y Gemau Olympaidd yn PyeongChang, De Corea eleni? Daeth Mica Moore a’i phartner Mica McNeill yn 8fed yn eu cystadleuaeth, y canlyniad gorau erioed i Brydai n yn y gystadleuaeth yma. Nid yn unig ar yr iâ mae Mica yn gwibio chwaith;
Yn hyrddio i lawr y rhew yn PyeongChang hefyd oedd Cymraes arall o Sir y Fflint, sef Laura Deas. Cipiodd Laura y fedal efydd yng nghystadleuaeth y sled sgerbwd, gydag aelod arall o dîm Prydain, Lizzy Yarnold, yn ennill y fedal aur
©Andy J Ryan/Team GB
yn ystod Gemau’r Gymanwlad yng Nglasgow yn 2014 roedd hi’n cynrychioli Cymru yn y Ras Gyfnewid 4x100m!
©Andy J Ryan/Team GB
Seren tîm Prydain yn y Gemau Paralympaidd yn PyeongChang eleni oedd y Gymraes Menna Fitzpatrick. Llwyddodd y sgîwr rhannol-ddall a’i harweinydd Jen Kehoe i gipio medal aur, dwy fedal arian a medal efydd. Dim ond 5% o olwg sydd gan Menna ac mae’n dibynnu ar Jen i’w harwain i lawr y cwrs. Mae Jen yn sgîo ychydig o fetrau o flaen Menna ac yn gwisgo fest lachar er mwyn i Menna
allu ei gweld. Gall y ddwy siarad a gwrando ar ei gilydd drwy declyn yn eu helmedau.
© ParalympicsGB
8