Yr wythnos diwethaf cyhoeddodd y Gweinidog Addysg,
Kirsty Williams y camau nesaf i ysgolion Cymru. Er
bod ysgolion wedi bod ar agor i nifer o blant a phobl
ifanc, mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion wedi bod yn cael
eu haddysg gartref.
Camau nesaf i ysgolion Cymru:
A fydd popeth yn ôl fel arfer?
Ni fydd popeth yn union fel o'r blaen, bydd rhai newidiadau:
Rhai o'r newidiadau hynny fydd:
Mae ysgolion yn Lloegr wedi ail-agor ers 1af Mehefin, gyda disgyblion o rai blynyddoedd yn unig yn mynd yn ôl. Bydd ysgolion yr Alban yn ail-agor mis Awst.
Pwy yw'r athrawon gorau?
Mae nifer fawr o rieni a gofalwyr wedi bod yn cymryd rôl athrawon.
Beth sy’n gwneud athro da? Mae nifer fawr o blant ac oedolion
wedi mwynhau'r profiad o fod adref yn dysgu, ac mae adroddiadau
fod nifer mwy nag arfer o oedolion am hyfforddi i fod yn athrawon.
Sut fyd addysg wyt ti'n meddwl bydd y dyfodol? Beth am anfon dy
syniadau Y Cliciadur?
Oherwydd y sefyllfa gyda’r Coronafeirws cafodd Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych ei gohirio tan 2021 ond yn ei lle cafwyd yr Eisteddfod rithiol gyntaf erioed, sef Eisteddfod T. Denodd Eisteddfod T dros 6,000 o gystadleuwyr mewn dros 80 o gystadlaethau. Yn ystod yr wythnos cafwyd cystadleuthau traddodiadol fel canu, dawnsio a llefaru ynghyd â phethau ychydig yn wahanol fel meimio i ganeuon a thalentau anifeiliaid anwes. Roedd yn sicr yn Eisteddfod llawn bwrlwm a chwbl unigryw!
Yn ddiweddar, mae protestiadau gwrth-hiliaeth wedi cael eu cynnal dros y byd i gyd, gan gynnwys yma yng Nghymru. Mae miloedd o bobl wedi cymryd rhan yn y protestiadau ac ar y cyfan maen nhw wedi bod yn rhai heddychlon. Cychwynnodd y protestiadau yn dilyn marwolaeth dyn du o’r enw George Floyd ym Minneapolis, Unol Daleithiau America ar 25ain o Fai eleni. Bu farw ar ôl i blismon gwyn bwyso ar ei wddf wrth ei arestio.
Mewn protest ym Mharc Bute, Caerdydd roedd tua 2,000 o bobl yn cymryd rhan ac yn gwrando ar nifer o siaradwyr yn trafod yr *anghyfiawnder mae pobl ddu yn ei wynebu dros y byd. Un o’r siaradwyr oedd Andrew Ogun ac yn ôl Andrew, sydd yn ddyn du, roedd marwolaeth George Floyd wedi“ tanio matsien” ym mhobl Cymru. Aeth ymlaen i ddweud “Mae pobl yn rhwystredig, mae pobl wedi blino, mae pobl eisiau i’w lleisiau gael eu clywed. Allwn ni ddim dweud bod creulondeb yr heddlu cynddrwg yma ag yw yn yr Unol Daleithiau. Ond er hynny, mae’n rhaid i’r rhagfarn yn erbyn pobl ddu newid. Rydw i’n 10 gwaith mwy tebygol o gael fy stopio gan yr heddlu. Dw i wedi cael fy stopio heb ddim rheswm dilys pan ydw i’n gwneud pethau da, yn gwneud pethau artistig, oherwydd sut ro’n i’n edrych.”
Mae Andrew a phobl eraill nawr yn galw am newid yng nghwricwlwm ysgolion Cymru, fel bod ein plant yn dysgu am rôl Cymru a Phrydain yn hanes pobl ddu a’r rôl mae pobl ddu wedi ei chwarae yn hanes Cymru a Phrydain.
*anghyfiawnder - (injustice) pan nad yw pethau yn deg a phobl ddim yn cael eu trin yr un fath â phobl eraill.
1
![]() |
Diwrnod y Dywysoges GwenllianPwy oedd Gwenllian? Ganwyd Gwenllïan yn ferch i Llywelyn ap Gruffudd ac Eleanor de Montford yn llys Garth Celyn, Abergwyngregyn. Bu farw Eleanor ar enedigaeth Gwenllïan, a chyn iddi gyrraedd ei phen-blwydd yn 1 oed bu farw Llywelyn hefyd . Oherwydd hyn, trefnodd Edward I (gelyn Llywelyn) i Gwenllian gael ei hanfon Loegr i gael ei magu. Treuliodd weddill ei hoes yn byw fel lleian mewn priordy yn Sempringham heb syniad yn y byd pwy oedd hi. |
![]() |
Hirddydd HafBeth yw Hirddydd Haf? Mae Hirddydd Haf yn digwydd tua'r 21ain o Fehefin bob blwyddyn. Eleni mae’n cychwyn am 22:43 yr hwyr ar noson yr 20fed. Hwn yw diwrnod hiraf y flwyddyn pan mae pegwn gogleddol y ddaear wedi ei *ogwyddo agosaf at yr haul. Ym mis Rhagfyr ceir Byrddydd y Gaeaf, sef y diwrnod byrraf. Yng Nghymru, sydd yn hemisffer y gogledd, mae Hirddydd Haf yn nodi diwrnod cyntaf yr haf a Byrddydd y Gaeaf yw diwrnod cyntaf y gaeaf. Os ydych yn byw yn hemisffer y de (fel Awstralia) mae’r gaeaf yn dechrau ym mis Mehefin a’r haf yn dechrau ym mis Rhagfyr *gogwyddo (tilt) yn pwyso tuag at yr haul Mae mwy o wybodaeth am Fyrddydd y Gaeaf yn Rhifyn 5–tud 6. Sut a pham mae pobl yn dathlu Hirddydd Haf? Dros gyfnod Hirddydd Haf, mewn rhannau gogleddol o’r byd fel Norwy, Y Ffindir ac Alasga mae pobl yn cael haul am hanner nos. Tu mewn i Gylch yr Arctig dydi’r haul ddim yn machlud o gwbl! Mae’r gwledydd hyn yn cael dathliadau mawr ac mae Sweden yn cael diwrnod o wyliau cenedlaethol. Mae pobl yn mwynhau teithio i gefn gwlad, casglu blodau gwyllt, gwledda, dawnsio a chanu o gwmpas coelcerth. Un o’r llefydd mwyaf enwog i ddathlu hirddydd haf yw Côr y Cewri
(Stonehenge) yn Lloegr. Mae miloedd o bobl yn tyrru i’r cylch cerrig
4,000 oed yma i weld yr haul yn codi ar ddiwrnod Hirddydd Haf. Mae’r
haul yn codi tu ôl i garreg arbennig yr ‘Heel Stone’ ac mae pelydryn o
haul yn disgleirio i ganol y cylch cerrig, dim ond ar yr un diwrnod yma o’r
flwyddyn mae hyn y digwydd. Credir fod pobl wedi bod yn dathlu
Hirddydd Haf yng Nghôr y Cewri ers miloedd o flynyddoedd. |
![]() |
Sul y Tadau |
![]() |
Diwrnod Rhyngwladol CorsyddAm fwy o wybodaeth ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC): https://bit.ly/2TwKmP8 |
Os wyt ti’n hoffi natur mae CNC hefyd yn annog pobl i
gymryd rhan yng nghynllun monitro peillwyr. Arolwg
am greaduriaid a blodau sy’n peillio ydy hwn, y gelli di
ei wneud yn dy ardd dy hun heb unrhyw offer na
gwybodaeth arbennig. Bydd canlyniadau’r arolwg yn
helpu gwyddonwyr gyda gwaith pwysig yn y maes
yma. Mae’n bosib gwneud yr arolwg yn y Gymraeg
neu’r Saesneg. Dilyn y linc am fwy o wybodaeth:
https://bit.ly/3g6Tgwu
![]() |
Diwrnod Annibyniaeth UDAMae Unol Daleithiau America yn dathlu ar y dyddiad yma bob blwyddyn i gofio’r diwrnod yn 1776 pryd cafodd y wlad ei gwneud, yn swyddogol, yn wlad annibynol. Cyn 1776 roedd y wlad yn cael ei rheoli gan Brydain. |
![]() |
Diwrnod Bastille yn Ffrainc
|
![]() |
Pen-blwydd
|
2
Roedd Tariq yn cael ei ben
blwydd fory. Fel arfer ar ei ben
blwydd byddai'n cael parti mawr
gyda'i ffrindiau a byddai ei
chwaer fawr Amira, yn dod adref
o'r ysbyty yn Llundain, lle'r oedd
yn feddyg. Fel arfer hefyd
byddai'n cael pryd arbennig o
fwyd ac yn mynd i lan y môr neu
i'r parc i chwarae. Ond y tro yma
doedd Tariq ddim wedi edrych
ymlaen am ei ben blwydd o
gwbl. Doedd arno ddim eisiau i'r
diwrnod gyrraedd.
Syllodd Tariq yn drist ar ei draed,
a'r hen drainers. Roedd wedi
gofyn i'w rieni am bâr newydd o
drainers yn anrheg, roedd wedi
bod gyda Mam i'r siop
chwaraeon cyn i'r byd i gyd gloi,
ac wedi eu
trio 'mlaen yn barod. Roedd Mam wedi gwenu ac
wedi dweud, 'Gawn ni weld ie?'
Bob tro byddai'n mynd am dro
gyda'i rieni trwy'r strydoedd
gwag, byddai'n mynd heibio'r
siop - byddai'r trainers yn dal
yno, ar y silff wrth y ffenestr. Ond
ddoe, roedd wedi mynd gyda'i
fam ar hyd y prom, ac wedi
mynd i mewn i'r dre, roedden
nhw wedi aros o flaen y siop
chwaraeon, roedd y siop ar gau
wrth gwrs, fel y rhan fwyaf o
siopau'r dref. Rhoddodd Tariq ei
dalcen ar y gwydr i gael edrych
yn well, ond doedd y trainers
ddim yno. Suddodd ei galon,
maen rhaid eu bod wedi eu
gwerthu. Ond sut a'r siop ar
gau?
Llusgodd Tariq ei draed yr holl
ffordd adre. Er fod y geifr gwyllt
wedi dod i lawr i'r dref ac yn
neidio dros y cloddiau i'r gerddi,
doedd Tariq ddim wedi codi ei
ben i'w gwylio, dim wedi
chwerthin a rhedeg i'w gweld yn
iawn, fel arfer. Wnaeth Tariq
ddim
codi ei lygaid oddi ar ei drainers tyllog yr holl ffordd
adref.
Aeth Tariq i'w wely'n ddigalon
iawn. Fory fyddai'r penblwydd
gwaethaf erioed!
Deffrodd yn fore, ac wedi cofio
mai heddiw oedd diwrnod ei
ben blwydd, rhoddodd ei ben yn
ôl o dan y dwfe. Doedd Tariq
ddim am godi. Yna daeth Mam i
mewn, 'Ty'd Tariq, mae'n ben
blwydd arnat ti. Oeddet ti wedi
anghofio?' Meddai Mam gan
chwerthin.
'Na, dwi yn cofio.' Meddai Tariq
yn dawel, gwisgodd yn araf.
'Crempog i frecwast?' Roedd
Mam a Dad wrth y bwrdd,
'Penblwydd hapus iawn Tariq!'
Meddai Dad. Cododd y
gliniadur ar y bwrdd, 'Edrych
mae rhywun eisiau siarad efo ti...'
Trodd y sgrîn i wynebu Tariq, yno yn ei dillad
glas yn barod i
fynd nôl i'w gwaith roedd Amira,
'Penblwydd hapus Tariq!'
Meddai, 'Mi fydda i'n ymuno yn y
parti ar y sgrîn heno, pan fydda
i'n gorffen gwaith!' Meddai
Amira, 'Ond mae yna rhywbeth
bach i ti yn y parsel - edrych!'
Cododd Dad y parsel o lle'r oedd
wedi ei guddio o dan y bwrdd.
Agorodd Tariq y papur yn
gyflym.
'Waw!' Chwarddodd, ac
ymunodd Amira yn y chwerthin
'Rho nhw 'malen i weld os ydyn
nhw'n ffitio!'
Yn y p'nawn, aeth Dad a Mam
efo Tariq am dro ar y prom,
roedd y geifr yn ôl i lawr yn y
dref, a'r stryd yn wag, rhedodd
Tariq ar ôl y geifr, y trainers
newydd fel adenydd am ei
draed.
3
Mae Gruffudd Owen yn rhoi sialens llenyddol bob wythnos ar Twitter a YouTube. Beth am fynd ati i farddoni?
Wyt ti’n hoffi tynnu llun?
Mae Orielodl yn rhoi
gwersi gwych ar YouTube
ar sut i wneud lluniau â
geiriau Cymraeg.
Wyt ti awydd dysgu chwarae’r ukulele?
Mae Mei Gwynedd yn rhoi gwersi ukulele yn Gymraeg ar YouTube. Mae’r rhain yn hawdd i’w dilyn ac yn addas i blant.
Mae Sioned Erin Hughes yn mwynhau ysgrifennu am bob math o bethau. Erin enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2018. Gan ei bod adref yn hunanynysu penderfynodd greu Grŵp Llun a Stori ar Facebook gan wahodd plant i anfon lluniau ati er mwyn iddi allu sgwennu stori am y llun iddyn nhw. I ddarllen y storïau dilyna’r linc yma:
Gweler rhestr fer gwobrau Tir na n-Og isod lle mae llyfr a olygwyd gan Sioned Erin Hughes wedi’i enwebu.
Mae cyfres o sesiynau celf i blant
gan un o brif gartwnwyr Cymru
wedi cael eu gwylio dros 30,000
o weithiau ers eu lansio ar-lein ar
ddechrau’r cyfnod o gau ysgolion
oherwydd Coronafeirws.
Partneriaeth yw’r Criw Celf
rhwng dau o gylchgronau plant
Cymru sef Cip a Mellten, y
darlunydd Huw Aaron, Urdd
Gobaith Cymru a Chyngor Llyfrau
Cymru.
Bob prynhawn am 3 o’r gloch, mae Huw Aaron yn cynnal sesiwn fyw neu’n llwytho fideo newydd ar YouTube sy’n dangos i blant sut mae arlunio lluniau dwl neu gartŵns, a sut mae dweud stori trwy luniau.
RHESTR FER GYMRAEG (CYNRADD)
RHESTR FER GYMRAEG (UWCHRADD)
RHESTR FER SAESNEG
4
Atebion ar dudalen 8
Gelli argraffu'r siart isod, a'i ddefnyddio i dy helpu i greu stori.
Cyfarwyddiadau:
5
Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae'r enfys wedi bod yn symbol i godi ein calonnau, wrth weld lluniau a modelau wedi eu gosod mewn ffenestri, neu wedi eu peintio ar waliau. Mae'r enfys wedi bod yn symbol o obaith erioed. Ond wyt ti'n gwybod sut mae enfys yn cael ei chreu ym myd natur?
Beth ydi enfys?
Enfys ydi bwa o liwiau mae'n llygaid ni'n ei weld wrth i olau'r haul dywynnu trwy ddafnau o law, neu ddŵr. Wrth edrych tuag at yr enfys, bydd golau'r haul y tu ôl i ti, a'r glaw o dy flaen di
Pam fod saith lliw yn yr enfys?
Mae goleuni yn edrych fel petai'n wyn, ond mae goleuni'n cael ei wneud o sbectrwm o liwiau. Gallwn weld saith o liwiau yn yr enfys:
fioled, indigo, glas, gwyrdd, melyn, oren, coch.
Ffansi Ffaith?
Nid yw pawb yn gweld enfys yr un fath - bydd enfys yn wahanol i bawb sydd yn edrych arni. Mae hynny oherwydd bod y golau yn cael ei adlewyrchu yn ôl i dy lygaid di, ac mae llygaid pawb yn wahanol.
Golau'n plygu
Wrth fynd i mewn i ddafn o law bydd golau'r haul yn plygu. Yna
mae'n plygu eto wrth ddod allan. Bydd y golau'n cael ei wahanu i
greu lliwiau gwahanol. Dyna'r lliwiau fydd yn teithio yn ôl i'n llygaid ni
fel ein bod gweld enfys.
Mae'r enfys yn gylch o olau, ond gan ein bod ni, fel arfer yn ei weld
wrth sefyll ar y ddaear, dim ond hanner y cylch fyddwn ni'n ei weld.
Trysor wrth droed yr enfys
Fedri di ddim cyffwrdd enfys gan mai golau ydi'r lliwiau. Ond mae rhai'n dal i ddweud bod trysor wrth droed yr enfys...
ENFYS MEWN GWYDR
Byddi angen:
Enw: Fin Calderwood
Byw yn: Pentref o’r enw Pencaenewydd ger Pwllheli.
Camp: Rhedais saith marathon mewn saith diwrnod i gasglu arian i GIG Cymru.
Pam?
Roedd ysgolion wedi cau, felly
doeddwn i ddim yn gweithio, ac
roeddwn i eisiau gwneud
rhywbeth i helpu. Mi gefais
syniad o godi arian wrth wneud
her gorfforol. Dw i'n hoff o redeg,
ond doeddwn i ddim wedi
cwblhau marathon cyn yr her!
Teimladau?
Dyna'r peth mwyaf anodd dw i
erioed wedi ei wneud, oherwydd
faint o filltiroedd oedd angen eu
rhedeg pob diwrnod. Ar y
trydydd diwrnod cefais anaf i fy
mhen-glin ac roedd y boen yn
ofnadwy.
Oes gen ti gyngor?
Paratoi. Wnes i ddewis gwneud
yr her heb baratoi llawer. Cefais y
syniad nos Fercher a
chychwynnais ar y dydd
Gwener! Mi faswn i'n argymell
paratoi, drwy ymarfer rhedeg, ac
adeiladu tuag at yr her. Ond,
mae'n un o’r pethau gora dw i
erioed wedi’i 'neud!
Her arall i ddod?
Dw i'n edrych ‘mlaen rŵan i
gwblhau mwy o rasys Ultra
Marathon, yn enwedig yr Ultra
Pen Llŷn flwyddyn nesaf.
Oes rhywun arbennig yn dy
ysgogi?
Neb enwog i fod yn onest, ond
mae ffrindiau a theulu yn bwysig.
Cefais lawer o gymhelliant wrth
feddwl am ffrindiau a theulu, a
phobl sydd wedi fy helpu dros y
blynyddoedd.
Mae Y Cliciadur yn dymuno'n dda i ti ar dy her nesaf a diolch am ddweud dy hanes.
6
Pwy oedd O.M.Edwards?
Cafodd Owen Morgan Edwards ei fagu ar fferm o'r enw Coed-y-Pry,
yn Llanuwchllyn, ger Y Bala. Cafodd ei eni i deulu cymharol dlawd
mwn cyfnod pan nad oedd plant o gefndir tebyg yn gallu parhau
gyda'u haddysg. Fel arfer roedd yn rhai iddynt fynd i weithio i helpu i
gynnal y teulu. Ond llwyddodd O.M.Edwards i fynd i'r brifysgolion
yn Aberystwyth a Rhydychen.
Erbyn heddiw rydym yn cofio amdano yn bennaf fel Cymro fu'n
brwydro'n galed dros degwch i blant Cymru
Pam fod angen brwydro dros blant Cymru?
Yng nghyfnod O.M.Edwards roedd deddfau ynglŷn ag addysg yn cael eu gwneud yn Llundain. Nid oedd y gwleidyddion yn Llundain yn credu fod addysg Gymraeg yn bwysig. Saesneg oedd iaith pob ysgol trwy Gymru, er bod y mwyafrif o'r plant yn siarad Cymraeg.
Y Welsh Not
Yn y cyfnod hwn, roedd plant Cymru yn cael eu cosbi yn yr ysgol
am siarad Cymraeg. Byddai darn o bren gyda'r llythrennau W.N.
wedi ei gerfio arno yn cael ei hongian ar gortyn am wddf plentyn
oedd yn siarad Cymraeg. Pan fyddai'n clywed plentyn arall yn
siarad Cymraeg, byddai'n trosglwyddo'r pren i'r plentyn hwnnw. Ar
ddiwedd y diwrnod ysgol, byddai'r plentyn oedd yn gwisgo'r W.N.
yn cael ei daro gyda chansen.
Ysgrifennodd O.M.Edwards amdano ef yn cael ei gosbi am siarad
Cymraeg yn yr ysgol leol. Dywedodd am y darn pren y Welsh Not -
'Bu'r tocyn hwnnw am fy ngwddf gannoedd o weithiau...' meddai.
Yn dilyn ei driniaeth greulon, penderfynodd O.M.Edwards y
byddai'n gwneud ei orau i newid y sustem addysg yng Nghymru.
Cafodd y swydd o fod yn Brif Arolygwr Ysgolion Cymru, a thra yn y
swydd gwnaeth lawer iawn i wneud yn siŵr fod plant Cymru yn cael
eu trin yn deg.
Awdur
Roedd O.M.Edwards hefyd yn awdur. Ysgrifennodd nifer o lyfrau i
blant ac oedolion, oedd yn eu dysgu am Gymru. Bu'n teithio hefyd,
ac ysgrifennodd am y gwledydd y bu ynddynt.
Yn ystod y 1890egau, penderfynodd gyhoeddi cylchgronau ar
gyfer plant. Roedd disgwyl mawr yng nghartrefi Cymru am y
cylchgronau - Cymru a Chymru'r Plant. Roedd Cymru'r Plant yn
gwerthu tua 40,000 o gopiau bob mis, ac mae'n parhau i fod y
cyhoeddiad Cymraeg gyda'r mwyaf o ddarllenwyr erioed.
Tudalen o Gymru'r Plant 1892.
Cyn cylchgronau O.M.Edwards, nid oedd llyfrau i blant tebyg ar gael. Roedd Cymru'r Plant yn cynnwys lluniau, storïau a phosau bach ar gyfer plant.
Ffansi Ffaith? Wyt ti'n aelod o'r Urdd? Roedd Ifan ab Owen Edwards, sylfaenydd Urdd Gobaith Cymru yn fab i Syr O.M.Edwards. |
|
Aelod Seneddol
Bu O.M.Edwards yn aelod seneddol dros sir Feirionnydd. Roedd yn aelod o'r blaid Ryddfrydol a chafodd ei ethol yn 1899. Ond nid oedd yn mwynhau gwaith Aelod Seneddol, felly dim ond am flwyddyn y bu yn y senedd.
7
Un o drysorau hynafol mwyaf pwysig Cymru yw Bryn Celli Ddu ger Llanddaniel Fab ar Ynys Môn. Beddrod o’r cyfnod Neolithig, neu Oes Newydd y Cerrig, yw hwn ac mae arbenigwyr yn credu ei fod wedi dechrau cael ei adeiladu tua 5,000 o flynyddoedd yn ôl. Ynddo, mae cerrig mawr wedi eu gosod mewn cylch i greu siambr gyda
chyntedd hir yn arwain ato, ac mae’r cyfan wedi ei orchuddio a thomen o bridd. Mae haneswyr yn credu fod llawer o bobl wedi eu claddu yma dros gyfnod hir o amser. O fewn y beddrod mae archeolegwyr wedi darganfod esgyrn dynol, blaen saeth, glain bach o garreg a charreg fawr wedi ei addurno â phatrymau rhyfedd.
Yr hyn sy’n gwneud Bryn Celli Ddu yn fwy diddorol yw ei fod wedi ei osod yn berffaith i gyd-fynd â’r haul yn codi ar ddiwrnod Hirddydd Haf. Wrth i’r haul wawrio ar y diwrnod arbennig yma mae
pelydrau o olau yn cael eu taflu i lawr y cyntedd i oleuo'r siambr gladdu y tu fewn. Tybed na rhoi golau, gwres a bywyd i’r bobl oedd wedi eu claddu yno oedd y bwriad… pwy a ŵyr?
Mae’r ffilm yma ar YouTube yn rhoi mwy o wybodaeth: https://www.youtube.com/watch?v=Ay8ZhWX4nUg |
|
Cawsom hanes Andrea, athrawes o China yn Rhifyn 14. Dyma ddiweddariad ganddi ynglŷn â’r sefyllfa erbyn hyn:
Mae’n ychydig wythnosau ers i mi ysgrifennu am y sefyllfa yn China. Mae hi’n ddechrau Mehefin erbyn hyn ac efallai eich bod yn meddwl tybed sut mae pethau erbyn hyn?
Mae mynd o le i le dipyn yn haws erbyn hyn gan fod y rhan fwyaf o fwytai, siopau, parciau ac ardaloedd hamdden ar agor, ond rhaid gwisgo mwgwd. Rydym wedi agor ysgolion i bob oedran ar wahân i’r Meithrin. Doedd pawb ddim wedi dechrau ar unwaith gan fod rhai blynyddoedd wedi cychwyn ar adegau gwahanol. Mae’r ysgol ychydig yn wahanol ond mae pethau yn well ac yn haws nag oeddwn wedi ei ddisgwyl! Cyn i
ni fynd yn ôl i’r ysgol roedd yn rhaid i’r athrawon gael prawf i ddweud eu bod yn glir o’r feirws,
a chyn mynd i mewn i’r ysgol bob dydd rhaid i ni sganio ein Ap iechyd. Rhaid i ni hefyd giwio 1.5m ar wahân a chael gwirio ein tymheredd. Mae athrawon a disgyblion yn gwisgo mwgwd ar gyfer y gwersi. Rhaid i’r desgiau fod 1.5m ar wahân gyda thua 15 o blant ymhob dosbarth. Felly dydi bywyd ddim yn hollol ‘normal’ ond mae pethau yn llawer gwell erbyn hyn. Rhaid i ni ddal i ddilyn y rheolau er mwyn cadw pawb yn ddiogel!
8