Mae ‘Dippy’ y Diplodocws wedi cyrraedd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd fel rhan o’i daith o amgylch y Deyrnas Unedig (DU). Bu’r sgerbwd enwog yn byw yn yr Amgueddfa Hanes Natur yn Llundain ers 1905 ond bydd yn aros yng Nghymru hyd at y 26ain Ionawr.
Cast (neu gopi) yw Dippy o sgerbwd y dinosor Diplodocws a
gafodd ei ddarganfod yn Wyoming, Unol Daleithiau
America ym 1898. Mae'n cynnwys 292 asgwrn ac yn
21.3 medr o hyd, 4.3 medr o led a 4.25 medr o daldra.
Wrth i Dippy deithio o amgylch y DU y gobaith yw y
bydd yn annog pobl a phlant i gymryd diddordeb
mewn hanes natur ac i’w ysbrydoli i edrych ar
gasgliadau yn eu hardal leol. Bydd gan Amgueddfa
Genedlaethol Caerdydd raglen gyffrous o
ddigwyddiadau i gyd-fynd â Dippy ar Daith. Bydd cyfle i
ymwelwyr ryfeddu at Dippy, ymweld â’r orielau hanes
natur a dod wyneb yn wyneb â deinosoriaid a
chreaduriaid o bob math.
Mae mynediad i’r amgueddfa AM DDIM i bawb!
'Mae Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi y bydd Etholiad Cyffredinol yn cael ei chynnal trwy wledydd Prydain ar ddydd Iau, 12fed Rhagfyr, 2019. Hon fydd yr etholiad cyntaf yn ystod y gaeaf ers bron i 100 mlynedd. Yn draddodiadol bydd Etholiadau Cyffredinol yn cael eu cynnal yn y gwanwyn neu'r haf. Mae'r tywydd yn well, ac felly bydd mwy o bobl yn pleidleisio.
Beth ydi Etholiad Cyffredinol?
Mae gwledydd Prydain wedi eu rhannu yn 650 o
rannau. Rhain yw'r etholaethau. Mae gan bob
etholaeth berson arbennig h.y. Aelod Seneddol, sydd
yn eu cynrychioli yn Nhŷ'r Cyffredin, y senedd yn
Llundain.
Bydd pawb sydd yn 18 oed, neu drosodd, yn cael
pleidleisio i ddweud pwy maen nhw am gael i'w
cynrychioli yn Llundain.
Rhoi x ar y papur pleidleisio.
Yn yr orsaf bleidleisio mae papur gydag enwau pob un
sydd yn ymgeisio i fod yn Aelod Seneddol arno. Bydd blwch wrth ymyl enw
pob un. I bleidleisio, mae'n rhaid rhoi croes yn y bocs
wrth ymyl enw'r un rydych chi eisiau ei ethol (ennill yr
etholiad). Mae'r papur yn cael ei roi mewn blwch pleidleisio.
Mae gan bawb hawl i roi ei groes yn gyfrinachol. Does
neb yn gwybod i bwy fydd pobl wedi pleidleisio. Mae
hyn yn bwysig iawn, fel bod pawb yn rhydd i wneud y
dewis.
Beth wedyn?
Ar ddiwedd y diwrnod bydd y blychau pleidleisio i gyd yn cael eu cario i un adeilad, a bydd y papurau pleidleisio yn cael eu cyfrif. Yr ymgeisydd gyda'r mwyaf o bleidleisiau fydd yn ennill ac yn dod yn Aelod Seneddol, ac yn mynd i Dŷ'r Cyffredin yn Llundain i gynrychioli pobl yr etholaeth.
1
![]() |
Diwrnod Toiled y BydPwrpas y diwrnod yma yw codi ymwybyddiaeth am lanweithdra o amgylch y byd ac anelu at gael cyfleusterau toiled i bawb erbyn 2030. Heddiw mae 4.2 biliwn o bobl yn byw heb doiled, sydd yn achosi tristwch a dioddef yn ogystal â pheryglu bywydau. |
![]() |
AdfentDyma ddechrau cyfnod ‘ADFENT’ sef cyfnod o ‘aros’ am y Nadolig mewn eglwysi. Gall hyn olygu agor drysau calendr Adfent, goleuo canhwyllau a chynnal gwasanaeth arbennig yn yr Eglwys. Yn ystod y cyfnod yma hefyd mae llawer o blant yn mynd i wasanaeth y Christingle. Yn y gwasanaeth yma mae plant yn derbyn oren wedi ei addurno a channwyll ar ei ben. |
![]() |
Hanukkah 2019‘Gŵyl Goleuni’ yr Iddewon yw Hanukkah ac mae Iddewon o amgylch y byd yn ei ddathlu trwy oleuo canhwyllau ar y menorah (un bob nos), bwyta bwyd arbennig, canu caneuon arbennig a chynnal parti. Eleni mae Hanukkah yn cychwynRhagfyr wrth i’r haul fachlud ar Ddydd Sul, 22ain Rhagfyr ac yn parhau hyd machlud haul Ddydd Llun, 30ain Rhagfyr. Cannwyllbren y ‘Menorah’ |
FFEITHIAU FFANTASTIG AM Y TWRCI
FFEITHIAU FFANTASTIG AM Y TWRCI
FFEITHIAU FFANTASTIG AM Y TWRCI
![]() |
Noswyl Nadolig
|
![]() |
Diwrnod NadoligDydd Mercher |
![]() |
Gŵyl San Steffan
|
Ar Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan ac ar Ddydd Calan mae’n draddodiad mewn llawer o leoliadau i fynd am drochfa yn y môr neu mewn llyn. Un o’r digwyddiadau mwyaf enwog o’r math hyn yn cael eu cynnal yw yr un blynyddol yn llyn y Sepentine yn Llundain ar ddiwrnod Nadolig, lle mae nofwyr weithiau yn gorfod
torri’r rhew ar wyneb y llyn cyn mynd i fewn iddo! Ar hyd a lled Cymru mae nifer o ddigwyddiadau o’r math hyn gan gynnwys ym Mhorthcawl ar fore Nadolig, ar Ddydd San Steffan yn Ninbych-y-Pysgod, Llandudno a Pen-bre ac yn Abersoch ar Dydd Calan. Codi arian at elusen yw’r nod yn rhan fwyaf o’r digwyddiadau hyn ac mae gwisgo gwisg ffansi yn rhan o’r hwyl!
![]() |
Ras Guto Nyth Brân (Nos Calan)Mae’r ras yma’n cael ei rhedeg ers 1958, dros gwrs o 5km yn nhref Aberpennar. Mae’n cael ei chynnal i gofio am y rhedwr enwog Guto Nyth Brân oedd yn byw yn yr ardal yn yr 1700au cynnar. Cyn i’r ras gychwyn ceir gwasanaeth yn eglwys Llanwynno ac mae torch yn cael ei adael ar fedd Guto Nyth Brân yn y fynwent. Bydd y ras yn gorffen yng nghanol y dref, gerllaw'r cerflun o Guto ei hun. Bob blwyddyn mae ‘rhedwr dirgel’ yn cystadlu ac mae’r rhain wedi cynnwys Linford Christie, Iwan Thomas a Lillian Board! ![]() Cerflun Guto Nyth Brân yn Aberpennar |
![]() |
Nos Ystwyll5ed neu’r 6ed Ionawr. Mae’r diwrnod yma 12 diwrnod ar ôl y Nadolig ac yn nodi diwedd yr ŵyl. Yn draddodiadol, dyma’r diwrnod i dynnu’r holl addurniadau Nadolig i lawr. Mae’r diwrnod yma hefyd yn cael ei gysylltu â hen draddodiadau Cymreig fel Hela’r Dryw Bach a’r Fari Lwyd a Dathliadau Alban Arthan neu Fyrddydd y Gaeaf |
2
Roedd popeth bron 'run fath ag arfer. Winciai'r goleuadau ar y goeden Nadolig gan dasgu patrymau lliwgar ar hyd y waliau, ac roedd y carw efo'r goleuadau drosto wedi ei roi allan yn yr ardd ffrynt. Roedd Twm wrth ei fodd efo'r Nadolig. Ond eleni, doedd
pethau ddim yn union yr un fath ag arfer. Edrychodd Twm i gyfeiriad y lle tân. Yno byddai'r fasged wedi bod. Dyna lle'r oedd y llynedd, a phob noswyl Nadolig byddai Twm yn gadael hen hosan ar y bachyn uwchben y fasged. Byddai Sion Corn bob
amser yn gadael rhywbeth ynddi - bisgeden, pêl neu degan meddal. Ond doedd y fasged ddim yno nawr, a wyddai Twm ddim lle'r oedd yr hen hosan. Efallai fod Dad wedi ei thaflu. Roedd Twm wedi chwilio yng nghanol y bocsys Nadolig a ddaeth i lawr o'r atig. Tynnodd y tinsel o'r bocs a'i roi ar y goeden, a thynnodd y peli bach disglair yn ofalus a'u gosod yma ac acw ar y brigau. Tynnodd y tegan meddal Sion Corn allan a'i roi yn y lle arferol wrth y drws. Edrychodd yn fanwl arno - roedd y cap yn dyllau bach i gyd, olion dannedd. Wedi gorffen addurno'r goeden aeth Twm i'w wely. Er ei fod wedi cyffroi, a'r Nadolig yn nesáu, roedd rhywbeth ar goll. Y bore wedyn, agorodd Twm y llenni ac edrych draw at y goeden afalau, oddi tani roedd Twm a Dad wedi plannu eirlysiau, a sylwodd fod ambell
flodyn bach gwyn yn gwthio ei ben trwy'r pridd yn barod. Roedden nhw wedi wedi plannu'r blodau i gofio am ffrind arbennig. Brysiodd Twm i lawr y grisiau, roedd ei frecwast yn barod. Y tu ôl i'r bocs grawnfwyd, roedd rhywbeth llwyd ar y bwrdd - yr hosan!. 'Wnei di ei rhoi hi ar y goeden Twm?' meddai Dad. Gosododd Twm yr hen hosan yn ofalus ar un o'r brigau. Gwenodd yn drist wrth weld y pwythau coch yn sillafu enw 'GELERT'. 'Mae'n well i ni roi'r hen hosan i fyny fel arfer yn tydi?' meddai Dad, a gwasgodd Twm ato'n glòs.
3
Y LLYFRGELL GENEDLAETHOL YN PRYNU LLUN ‘SALEM’
Y LLYFRGELL GENEDLAETHOL YN PRYNU LLUN ‘SALEM’
Y LLYFRGELL GENEDLAETHOL YN PRYNU LLUN ‘SALEM’
'Mae'r llun ‘Salem’ gan yr artist Sydney Curnow Vosper yn enwog iawn ond peintiodd Vosper 'ail Salem' hefyd,
llun bron yr un fath â'r un cyntaf. Mae'r ail fersiwn hwn wedi ei brynu yn ddiweddar gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r llun cyntaf yn cael ei arddangos yn Oriel Lever, ger Lerpwl ond bydd yr ail lun yn cael ei weld yng Nghymru am y tro cyntaf! Mae hyn yn newyddion da iawn yn ôl Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr y Llyfrgell Genedlaethol:
“…mae hwn yn un o drysorau’r
genedl ac rwy’n edrych ymlaen
at y cyfleoedd i’w rhannu â
Chymru a thu hwnt. Bydd yn
bleser medru ei harddangos a
mynd â fo allan i’r gymuned, fel
rhan o’n rhaglenni Campwaith
Mewn Ysgolion.”
Hanes y Llun
'Cafodd y 'Salem' cyntaf ei beintio yn 1908 ac mae’n dangos Siân Owen, Tyn-y-Fawnog yn cyrraedd gwasanaeth yng Nghapel Salem ger Cwm Nantcol yng Ngwynedd. Gwerthwyd y llun hwnnw i William Hesketh Lever, perchennog cwmni sebon ‘Sunlight Soap’. Er mwyn ei helpu i werthu sebon rhoddodd Lever docynnau arbennig mewn pecynnau sebon ac roedd pobl yn gallu casglu’r tocynnau a chael copi o 'Salem' i'w roi yn eu cartref. O ganlyniad i hyn roedd copi o'r llun i’w weld mewn cartrefi ar hyd a lled Cymru.
Y Diafol yn y Siôl.
Daeth y llun yn fwy enwog wedi i bobl sylwi fod posib gweld wyneb y diafol yn siôl Siân Owen. Yn ôl yr arlunydd Curnow Vosper, nid oedd wedi ei beintio yn fwriadol o gwbl
Yr Het Ddu Gymreig Draddodiadol:
Yr Het Ddu Gymreig Draddodiadol:
Yr Het Ddu Gymreig Draddodiadol:
Mae tair merch yn llun ‘Salem’, i gyd yn gwisgo het ddu Gymreig draddodiadol. Peintiodd Curnow Vosper y llun ar ddiwedd Oes
Fictoria pan nad oedd merched yn gwisgo hetiau fel hyn mewn gwirionedd. Pam wyt ti’n meddwl fod yr artist wedi dewis gwneud hyn tybed? Mae llawer o artistiad Cymraeg modern wedi dewis darlunio yr het ddu draddodiadol hefyd. Dyma waith Ruth Jên a Lowri Davies.
Beth ydy dy farn di: stereoteip hen-ffasiwn a gwirion neu draddodiad pwysig?
Enw: Sara Davies
Swydd: Rheolwr Tîm Rygbi'r Scarlets
Lleoliad gwaith: Parc Y Scarlets, Llanelli
Rydyn ni'n dechrau'r diwrnod gyda chyfarfod staff, yna fi'n dala lan gyda'r chwaraewyr ac yn gwneud yn siŵr fod pawb yn iawn. Yna fi'n mynd trwy fy e-byst, bydd yna drefniadau teithio ac amserlenni i'w trefnu. Fi'n gwylio'r hyfforddi, ac yn helpu gyda'r dadansoddi sgiliau. Mae'n ddiwrnod hir, 7:00 y bore tan 6:00 yr hwyr.
• Gweithio gydag athletwyr sy'n
cymryd eu gwaith o ddifrif
• Y cyffro ar ddiwrnod gêm
• Pwysau'r gwaith
• Ennill gêm
• Gweld chwaraewyr yn cael niwed
• Colli gêm
Fi wedi chwarae rygbi ers
oeddwn i'n 8 oed, a fi'n caru'r
gêm. Wrth dyfu fyny, roeddwn
i'n mynd i wylio tîm
Hendy-gwyn. Yna wedi mynd i'r
brifysgol wnes i chwarae i dîm
Met Caerdydd a chymryd rhan
yn y trefnu. Roeddwn wrth fy
modd. Pan ddaeth y swydd hon
i fyny, fe dries i amdani, a'i chael.
Fi wrth fy modd!
• Gweithio'n galed
• Bod yn gyfeillgar
• Mynd gam ymhellach
• Gwneud llawer o waith
gwirfoddol
4
Mae'n dymor y Nadolig ac mae nifer o bobl yn prynu craceri Nadolig. Ond mae nifer o graceri yn defnyddio plastigion. Mae'r craceri yn aml yn cael eu pecynnu mewn plastig, neu mae anrhegion bach plastig ynddynt. A ddylen ni barhau i brynu craceri felly?
5
Mae'n oer a gwlyb y tu allan ac mae'n braf cael aros yn y tŷ. Wyt ti weithiau awydd aros yn dy wely a swatio o dan y dwfe? Wel nid ti ydi'r unig un!
Gaeafgysgu
Bydd rhai anifeiliaid yn mynd i gysgu dros fisoedd oer y gaeaf. Maen
nhw'n gwneud hyn gan fod bwyd fel pryfaid a phlanhigion gwyrdd
yn brin yn y gaeaf.
Byddan nhw'n mynd i gwsg trwm ac felly yn arbed eu hegni fel nad
oes yn rhaid iddyn nhw gael gymaint o fwyd.
Paratoi cyn cysgu.
Bydd rhai o'r anifeiliaid sy'n gaeafgysgu yn paratoi trwy fwyta llawer cyn mynd i gysgu. Bydd rhai eraill yn casglu bwyd i storfa, yn ymyl lle bydden nhw'n cysgu. Yna byddan nhw'n deffro am ychydig i fwyta, cyn mynd yn ôl i gysgu eto.
Beth sy'n digwydd i'r anifail pan mae'n gaeafgysgu?
Dyma rai anifeiliaid sy'n gaeafgysgu yng Nghymru:
Pathew
Mae'r pathew yn gaeafgysgu mewn twll yn y ddaear. Cyn cysgu bydd wedi bwyta cymaint bydd bron iawn yn ddwbl ei faint arferol!
Ystlum
Bydd pob rhywogaeth o ystlumod Cymru yn cysgu trwy'r gaeaf gan nad oes pryfaid ar gael iddyn nhw eu bwyta. Fe fyddan nhw'n cysgu mewn tyllau coed, mewn ogofâu ac weithiau o dan y to yn ein tai! Mae eu curiad calon yn arafu i tua 20 curiad y munud.
Draenog
Gan mai chwilod, mwydod a phryfaid eraill yw prif fwyd y draenog, mae'n rhaid iddo aeafgysgu. Bydd yn treulio'r hydref yn bwyta a bwyta, fel bod ganddo ddigon o floneg i'w gadw trwy'r gaeaf. Bydd yn gwneud nyth iddo ei hun o dan y gwrych, neu dwmpath o ddail.
Cofia - os wyt ti'n gweld nyth draenog ! yn y gaeaf - paid â'i ddeffro!
bloneg - fat
Mae Y Cliciadur wedi cael cyfweliad gyda un o gorachod Siôn Corn. Seren go iawn! Dyma hanes Colin Corn.
Enw: Colin Corn
Oed: Hmm? Dim yn siŵr iawn!
Ysgol: Wedi gadael yr ysgol ers amser maith.
Hoff bynciau yn yr ysgol?: Daearyddiaeth.
Beth wyt ti'n ei wneud o
ddydd i ddydd?
Fy ngwaith i yw helpu Siôn Corn
i ddarllen rhestrau plant y byd.
Wedyn mae'n rhaid dod o hyd i'r
anrhegion. Ar ôl dod o hyd i'r
anrhegion, rhaid gwneud yn
siŵr eu bod yn mynd i'r plant
cywir. Mae hynny'n anodd
weithiau, oherwydd mae
cymaint o anrhegion yn stordy
Siôn Corn. Yna mae'n rhaid llwytho popeth ar y sled, a gwneud yn siŵr fod y ceirw yn barod - yn iach a hapus.
Diddordebau
Darllen map, oherwydd mae'r peiriant ffeindio ffordd yn rhewi weithiau ac yn stopio gweithio. Mae hynny yn broblem! Felly bydda i'n darllen y map a chynllunio'r ffordd fel bod Siôn Corn a'r ceirw yn dod o hyd i'r llefydd cywir.
Beth fyddi di'n ei wneud i
ymlacio?
Gan fy mod yn byw mewn lle
oer iawn, mae mynd am wyliau i lan y môr yn braf. Rydw i wedi clywed fod traethau braf yng Nghymru. Efallai y dof i am wyliau i Gymru flwyddyn yma. Dwi wrth fy modd yn gwneud cestyll tywod a chynhesu fy nhraed yn y môr
Lle fyddi di
mewn 10
mlynedd?
Rhywle rhwng
Pegwn y
Gogledd a
Phegwn y De!
3 LLYFR CYMRAEG GWYCH AR GYFER HOSAN NADOLIG:
Y llyfr perffaith ar gyfer dathlu
Cwpan Rygbi'r Byd! Cyflwyniad
cyffrous i'r gêm er mwyn helpu
plant i ddeall y rheolau, dysgu
sgiliau rygbi a dysgu am
recordiau byd yn y maes.
Edrychir ar hanes y gêm, gan fanylu ar fathau
gwahanol o rygbi, megis Rygbi'r Undeb,
Rygbi'r Gynghrair, Rygbi Saith-bob-ochr a
Rygbi Tag.
Awdur: Sarah Larter
Pris: £9.99
Llyfr am 12 o ferched
ysbrydoledig o Gymru e.e.
Tori James, Laura Ashley,
Eileen Beasley, Amy Dillwyn,
Haley Gomez. Mae'r merched
yn arbenigwyr yn eu
meysydd penodol ac yn dod o bob rhan o
Gymru. Mae'r llyfr yn llawn hwyl, ffeithiau,
posau, gweithgareddau, cartwnau a lluniau
lliwgar Telor Gwyn.
Awdur: Medi Jones Jackson
Pris: £5.99
Llyfr ffeithiol am 50 o adar
sydd i'w gweld yng Nghymru,
wedi ei ddylunio'n ddeniadol,
gyda thudalen ddwbl i bob
aderyn, yn cynnwys ffeithiau,
ffotograffau a lluniau wedi eu
comisiynu'n arbennig ar gyfer
y gyfrol. Bydd ffeithiau megis maint, cynefin a
bwyd yr adar, disgrifiad, mis-o-metr, Ffeithiau
Ffab a geirfa.
Awdur: Onwy Gomer
Pris: £6.99
6
Mae Y Cliciadur yn edrych ymlaen yn arw at Nadolig. Bydd y goeden i
fyny erbyn dechrau Rhagfyr, bydd y llythyr at Siôn Corn wedi ei ysgrifennu,
a phawb yn brysur yn paratoi.
Daw rhai o'n traddodiadau Nadoligaidd o gyfnod cyn-Cristnogaeth ond mae'r rhan fwyaf ohonynt yn deillio o Oes Fictoria.
Cyn Oes Fictoria, nid oedd y Nadolig yn cael
ei ddathlu fel heddiw. Byddai anrhegion
bach yn cael eu rhoi i groesawu'r flwyddyn
newydd, a byddai plant yn mynd o amgylch
i hel calennig. Ond yn ystod y 1800au
newidiodd bywydau llawer o bobl. Byddai
nifer o ferched a dynion ifanc Cymru yn byw
a gweithio mewn dinasoedd a threfi mawr, a
bydden nhw'n gallu teithio'n ôl adref ar y
trên ar gyfer y Nadolig. Roedd hynny wrth gwrs
yn achos dathlu mawr.
Daeth peiriannau yn fwy cyffredin, ac roedd
nwyddau fel addurniadau a chardiau yn
cael eu gwneud ar gyfer eu gwerthu. Dyna
ddechrau'r farchnad nwyddau Nadolig.
Y Pab Julius I wnaeth nodi 25ain Rhagfyr fel diwrnod Nadolig, a hynny yn ôl yn y 4edd ganrif.
Roedd Albert, gŵr y frenhines Victoria yn hanu o'r Almaen. Yn yr Almaen roedd yn draddodiad dod â choeden fythwyrdd i mewn i'r tŷ ar noswyl Nadolig. Yn 1848 argraffwyd darlun o'r Teulu Brenhinol yn sefyll o amgylch coeden Nadolig, a dyna ddechrau'r traddodiad o addurno coeden. Byddai'r goeden yn cael ei haddurno gyda rhubanau, cnau, ffrwythau a chanhwyllau.
Ers cyn cyfnod cyn Crist, roedd pobl yn dathlu canol y gaeaf trwy wledda. Byddai planhigion bythwyrdd yn cael eu defnyddio i addurno'r stafelloedd. Wedi i'r dydd byrraf (21ain Rhagfyr) basio roedd pawb yn falch o weld y dyddiau'n dechrau ymestyn eto. Ynghanol gaeaf byddai'r gwyrddni yn atgoffa pobl fod y gwanwyn yn siŵr o ddod. Rydym yn dal i ddefnyddio planhigion gwyrdd i addurno ein tai.
Dyn o Dwrci oedd Sant Niclas. Yn ôl y sôn roedd yn ddyn caredig iawn, yn arbennig wrth blant. Mae un chwedl yn sôn iddo daflu sachaid fach o aur i lawr corn simdde un teulu tlawd. Tybed os mai hwn oedd y Siôn Corn cyntaf?
7
Traddodiad sy’n cael ei gysylltu gyda chyfnod yr adfent (y 24 diwrnod cyn y Nadolig) yw'r Farchnad Nadolig, neu’r *Christkindlmarkt fel mae’n cael ei alw yn yr Almaen. Dechreuodd y traddodiad yma yn yr Almaen yn y Canoloesoedd ond erbyn hyn mae’r marchnadoedd yn boblogaidd dros Ewrop gyfan, gan gynnwys nifer yng Nghymru. Mewn marchnad Nadolig traddodiadol ceir
stondinau pren yn gwerthu bob math o bethau, fel bisgedi sinsir Lebkuchen, gwin poeth o’r enw Glüwein a theganau pren y Nussknacker. Mae’r marchnadoedd Nadolig mwyaf poblogaidd yn ninasoedd mawr yr Almaen, fel Frankfurt, Dortmund a Cologne ac maent yn denu miliynau o ymwelwyr bob blwyddyn.
*Christkindlmarkt
Yn golygu ‘Marchnad y
Baban Iesu’
Dyma rai o’r marchnadoedd Nadolig sydd yng Nghymru eleni, beth am iti fynd am dro i un yn dy ymyl di?
BANCIAU BWYD
BANCIAU BWYD
BANCIAU BWYD
MEDDWL AM ERAILL DROS GYFNOD Y NADOLIG
Yn ôl elusen Achub y Plant mae tua 200,000 o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi, mae hyn yn 1 plentyn mewn 3.
Mae’r Trussell Trust yn elusen sydd yn cefnogi dros 1,200 o fanciau bwyd drwy wledydd Prydain. Mae banc bwyd yn darparu bwyd i bobl a theuluoedd sydd mewn argyfwng ac sydd angen help i gael digon o fwyd. Mae’n bosib rhoi cyfraniad i fanc bwyd mewn archfarchnadoedd lleol, felly os wyt ti yn siopa dros gyfnod y Nadolig beth am brynu un peth ychwanegol er mwyn ei roi i’r banc bwyd?
PÊL-DROED EWRO 2020
PÊL-DROED EWRO 2020
PÊL-DROED EWRO 2020
Gyda buddugoliaethau yn erbyn Azerbaijan a Hwngari yn y ddwy gêm olaf, mae Cymru wedi sicrhau eu lle yn y rowndiau terfynol pencampwriaeth Ewro 2020 y flwyddyn nesaf. Hwn ydi’r eildro mewn pedair blynedd i Gymru ennill lle mewn rowndiau terfynol pencampwriaeth - a'r cyntaf i Ryan Giggs fel rheolwr yn ei ymgyrch lawn cyntaf. Da iawn Cymru! Mi fydd y bencampwriaeth yn cychwyn ar y 12fed Mehefin, 2020.
8